Tudalen:Gwaith William Ambrose (Emrys).djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eglwys y plwyf ar Sul y Pasg ambell flwyddyn, ac ystyriai ei fod yn cyflawni pob peth wrth wneud hynny. Nid oedd wedi bod mewn addoldy ymneillduol erioed, ac nid oes un o Buseyaid y dyddiau hyn yn edrych gyda mwy o ddirmyg ar Ymneillduaeth nag yr edrychai gŵr y Ceunant; a'r unig wahaniaeth rhwng Siôn y Ceunant a hiliogaeth lwyd-wynebog Dr. Pusey yw, fod un yn barod i groeshoelio Ang- hydffurfwyr, "heb wybod beth oedd yn ei wneuthur;" a'r lleill, "a hwy yn gwybod eu drygioni." Buasai Siôn mor selog a Pusey i losgi pob Dissenter; ond nid o'r un ffynnon y buasai sel y naill a'r llall yn tarddu.

Mi a gymerais yn fy mhen, fel y dywedir, i roddi tro i gyffiniau y Ceunant, yn fuan wedi fy sefydliad yma. Yr oedd fy nghyfeillion yn fy mherswadio i ymgroesi (maddeued y darllenydd i mi am arfer y gair; y mae llawer o olion Pabyddiaeth ar ein hiaith, yn gystal ag ar enwau lleoedd, &c.). Ond yr oeddwn yn teimlo fy hun yn lled wrol, ac felly cychwynais ar fore teg yn y Gwanwyn tuag yno, gan dybied nad oedd neb yno yn fy adnabod. Wedi cerdded am awr a hanner, daethum o'r diwedd i olwg yr hyn a elwid yn dŷ. Gwelais haid o blant yn rhedeg i'r tŷ ar fy ymddanghosiad, fel cwningod yn rhedeg i'w tyllau. Teimlwn erbyn hynny fod awr y brofedigaeth yn ymyl. Cyn pen dau funud, daeth y gŵr a dau o'r meibion ataf, ac ar eu hol y wraig a gweddill y plant. Yr oedd golwg anneniadol dros ben arnynt. Ofer ceisio darlunio eu gwisgoedd, oblegid nid oeddynt o fewn cylch un ffasiwn a gydnabyddid gan y byd gwareiddiedig. Nid oedd crib, na brws, nac olew, wedi halogi pen-