bluen yn ateb i'r dwr, a mentrais ychwanegu,— "Beth pe baech chwithau yn dyfod i'r capel y Sul nesaf i gael gweled beth ydym yn wneuthur yno?" Gyda rhagymadrodd o lw ofnadwy, dy. wedodd, pe buasai yn myned i ryw gapel, y daethai ataf fi. "Beth yw pris y triog yn y pentre rwan?" eb efe. Ofer oedd i mi addef fy anwybodaeth, a dweyd mai duwinyddiaeth, ac nid grocery, oedd fy nghangen i o wybodaeth. Heblaw hynny, buasai dangos anwybodaeth ar bwnc y triagl yn codi rhagfarn yn fy erbyn, ac yn andwyo y cwbl ar unwaith. "Rhywbeth yn debyg," ebe fi, gan ymddangos yn bur ddoeth. "Be di pris y menyn bach?" ebe y wraig. Yr oeddwn yn digwydd gwybod hynny dipyn yn well, oblegid pris pwys o fenyn fyddai gwraig Tygwyn yn roddi at yr achos bob wythnos.
Wedi ateb eu cwestiynau, dywedais mai fy mhrif bwnc i oedd Iesu Grist. Crybwyllais ychydig am ei waed, ei ing, &c. Er nad oeddynt yn cymeryd nemawr ddyddordeb yn y pethau hynny, sylwais ar un eneth tua deuddeg oed yn gwrando yn astud ar yr hyn a ddywedais. Gofynnais iddi ddyfod i lawr i'r pentref bore Sul, a dywedais y cai aros hyd yr hwyr gyda ni. Edrychodd i fyny i wyneb ei thad, er mwyn cael rhyw arwydd ym mha gyfeiriad yr oedd y gwynt yn chwythu yn ei ysbryd ef. "Welwch chi'r graig acw?" eb efe. "Gwelaf," meddwn innau. "Welwch chi'r afon acw?" "Gwelaf." "Pan fo'r graig acw'n fenyn, a'r afon acw'n llaeth, gellwch ddisgwyl gweled rhywun o'r tŷ yma yn eich capel. Glwyswr ydw i, ac nid oes dim a wnelwyf â'r grefydd yma." Gwelais ei bod yn bryd i mi droi ym-