Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddyled i Ddirwest; Cymanfa Ddirwestol y Byd; catholigrwydd ei ysbryd yr Undeb Efengylaidd; Cymdeithas Heddwch; Cymdeithas Rhyddhad Crefydd, a'i wrthodiad o'r swydd o ysgrifenydd iddi; cynyrchion ei awen tra yn Nhredegar; ei lafur llenyddol; ei brophwydoliaeth am y Parch. L. Edwards, Bala; ei gyfeillgarwch â'r Archesgob Whately; ei "Welsh Sketches" yn y Nonconformist; ei draethawd Saesonaeg buddugol ar Ddirwest; ei lythyrau at esgobion Llandaf a Thy-Ddewi

Pen VIII. Ei fywyd a'i lafur yn Nhredegar (pärhad);—Hanes "Brâd y Llyfrau Gleision," a'u cyhuddiadau yn erbyn Cymru

Pen. IX. Ei fywyd a'i lafur yn Nhredegar (parhad);—Ei amddiffyniad buddugoliaethus o Gymru yn erbyn cyhuddiadau y "Llyfrau Gleision" ac, "Ordovicis," yn profi annhegwch ac anghywirdeb eu hadroddiadau am anwybodaeth Cymru, ei hanwareidd-dra, ei meddwdod, ei hanniweirdeb, a dylanwadau andwyol ei hiaith a'i Hymneillduaeth ar ei moesoldeb Cyferbyniad o lafur a llwyddiant cymhariaethol Eglwys y Llywodraeth a'i Hymneillduaeth frodorol yn Nghymru

I. Yn niwygiad anfoesoldeb y wlad
II. Yn ei chyflenwad â Gair Duw
III. Yn ei chyflenwad â moddion gwybodaeth ac addoliad crefyddol; 1. Pregethwyr y Gair; 2. Addoldai; 3. Ysgolion Sabbothol.
IV. Yn ei chyflenwad âg 1. Ysgolion dyddiol;2. Llenyddiaeth fuddiol; Ymneillduwyr yn blaenori yn bron bob cangen. Gwrthgyhuddiadau yn erbyn Eglwys y Llywodraeth; manteision Ymneillduaeth; ei gasgliadau oddiwrth y ffeithiau blaenorol

Pen. X. Ei fywyd a'i lafur yn Nhredegar (parhad);—Hanes "Brâd yr Ymneillduwyr," neu Ymneillduwyr Cymru eu hunain yn ym bleidio yn achos ymyriad y Llywodraeth âg addysg y wlad; 1. Afreidioldeb y fath ymyriad, 2. Ei ddrygedd,; crefydd yn rhan hanfodol o addysg fydol; ei brophwydoliaeth am addysg fydol

Pen XI. Ei fywyd a'i lafur yn Nhredegar (terfyniad);—yn rhoi y weinidogaeth i fyny, ac yn ym gysegru o hyn allan i lenyddiaeth; ffyddlondeb nodedig eglwys Saron iddo; pwysigrwydd y Wasg; Duw ei hun yn awdwr; Mr. Henry Richard a Mr. E. Miall; yn cael ei ethol yn ysgrifenydd y Gymdeithas Ddirwestol Genedlaethol.

Pen. XII. Ei hanes yn Olygydd y PRINCIPALITY a'r STANDARD OF FREEDOM;—Cychwyniad y Principality, a'i gymeriad tra dan ei olygiaeth ef; yn rhoddi ei olygiaeth i fyny; yn olygydd y Standard of Freedom; ei gydgleddyfiad â Dr. J. Campbell; ei fflangelliad i Mr. Cobden; The Pathway; Almanac y Cymry; Caledfryn yn weinidog yn Llundain; sefydlu Cymdeithas Gymreigyddol yno; ei briodas â Miss Rachel Lewis; marwolaeth ei fam; "Scorpion" ac "Ocheneidiau y Weinidogaeth;" ei afiechyd peryglus, a'i ymadawiad o'r brifddinas

Pen. XIII. Ei fywyd a'i lafur yn Nghaerdydd hyd ei farwolaeth; Yn ymgysegru o hyn allan i len yddiaeth Gymraeg; Y GYMRAES a'r ADOLYGYDD: ei gystadleuon lluosog mewn eisteddfodau lleol, a rhai cenedlaethol Rhuddlan a Thremadog; dadl fawr "Y Bryddest a'r Awdl;" ei gyflwr analluog yn cyfansoddi; hunan aberthiad ei angel glân—ei briod; ei hen forwyn, "Sarah;" ei weithiau olaf; ei farwolaeth a'i gladdedigaeth; galar Cymru am dano; ei gofgolofn

EI WEITHIAU BARDDONOL

Eu Cynwysiad

EI WEITHIAU RHYDDIEITHOL

I. ADGOFION PERSONOL A THEULUOL:—1. Fy Mam; 2. Adgofion Mebyd
II. TESTYNAU CREFYDDOL AC ENWADOL—1. Anerchiad at Ieuenctyd Crefyddol y Brithdir; 2. Perthynas Eglwysi Annibynol â'u gilydd 3. Y Parch. D. Williams, Llanwrtyd; 4. Sefyllfa yr Enaid o Angeu hyd yr Adgyfodiad; 5. Anerchiad Ymadawol i Eglwys Saron, Tredegar.
III. DIRWEST A MOESOLDEB CYMRU:—1. Ei Gyffes Ddirwestol; 2. Traethawd Buddugol ar Ddirwest
IV. ADDYSG CYMRU:—1. Tri Anerchiad at yr Ymneillduwyr; 2. Addysg y Llywodraeth; 3. Addysg y Llywodraeth.
V. BEIRDD A BARDDONIAETH CYMRU—1. Y Mesurau Caethion; 2. Athrylith Dafydd Ionawr
VI. AMRYWIOL DESTYNAU:—1. Dylanwad Merched ar Nodwedd Cenedl; 2. Edmund Jones a'i Amserau; 3. Sais-Addoliaeth; 4. Anniweirdeb Cymru; 5. Cwymp a Melldith Olwen; 6. Drwg a Da Cenedl y Cymry