Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y CYNWYSIAD

Y RHAGYMADRODD

ADOLYGIAD AR GYMERIAD A LLAFUR IEUAN GWYNEDD, GAN Y PARCH. W. WILLIAMS, ABERCARN

I. Fel dyn
II. Yn ei gysylltiadau crefyddol
III. Y Gwladgarwr
IV. Y Bardd a'r Llenor

Pen. I. Ei Deulu;—"Y dyn hunan wneuthuredig;" ei FAM, ei hanes boreuol; y "Bibl Coch;" ei hargyhoeddiad llym; ei hymuniad âg eglwys Crist; ei phriodas; eu symudiad i fyw i Ddolgellau, ac oddiyno i Lanuwchllyn; Dr. G. Lewis, a'i weinidogaeth; hynodrwydd y lle fel magwrfa enwogion; dylanwad pwysig duwinyddiaeth Dr. Lewis ar Catherine Jones a hanes dilynol ei theulu.

Pen. II. Ei hanes o'i enedigaeth hyd ei ymuniad â'r Diwygiad Dirwestol—Ei enedigaeth; ei frawd hynaf, John Evans; y teulu yn symud i'r Tycroes; y fam a'i phlant ar yr aelwyd; Evan yn yr Ysgol Ddyddiol; ei ysbryd darllen; ei lyfrgell; yn benthyca llyfrau; enwogion hunan-wneuthuredig Cymru; syniadau gwahanol ei dad a'i fam am Evan; ei ysbryd pregethu; ei ddyled i'r DYSGEDYDD; yn yr Ysgol Sabbothol; ei argraffiadau crefyddol boreuaf; yn Nolgellau, yn yr ysgol; ei fethiant gresynus fel gwas; beirdd a Chymreigyddion Dolgellau; Dafydd Ionawr; ei ymgais cyntaf ar faes barddoniaeth; cynygiad i'w ddwyn i fyny yn offeiriad; yn cadw ysgol ddyddiol; ar y llithrigfa

Pen. III. Ei hanes yn ei ardal enedigol, o'i ymuniad â'r Diwygiad Dirwestol hyd ei ymadawiad i Sir Drefaldwyn;—Addysg Mam ddim yn ofer; y Diwygiad Dirwestol yn yr ardal; ymuniad Evan Jones Ag ef ac âg eglwys Crist; ei lafur fel bardd ac areithydd dirwestol; llwyddiant hynod y Diwygiad Dirwestol; y gwahaniaeth rhyngddo a'r un Temlyddol presennol, a'r achosion o hyny; Cymdeithas Wrth-fyglys; cais i'w wneyd yn bregethwr yn ofer; fflangellydd barddol y Brithdir, ar "dydd dial;" hynodion ei fam; enciliad ei rieni o eglwys y Brithdir; William Richard, y gweddïwr; y siomedigaeth lem; ei ffydd; yn ymadael o'i ardal enedigol.

Pen. IV. Ei hanes o'i fynediad i Sir Drefaldwyn hyd ei dderbyniad i Ysgol Marton;—Yn myned i Sir Drefaldwyn; ei dlodi a'i gyfoeth yn cychwyn allan i'r byd; yn cadw ysgol, ac yn dechreu pregethu yn Sardis; ei ymroddiad i lafur; profi ei grefydd; yn symud i Benybont fawr; y Parch. D. Price; ei chwech penderfyniadau; yn symud i Fangor, i gadw yr ysgol dan y Parch. Dr. Arthur Jones; dysgrifiad o hono yn pregethu yno; yn ymadael oddiyno; ei brofedigaethau; dyfyniadau o'i "Ddyddlyfr".

Pen. V. Ei hanes yn efrydydd a bugail yn Marton;—Ei dderbyniad i'r ysgol yno, a'i gydefrydwyr; ei ymroddiad i'w efrydiau; ar daith bregethwrol; marwolaeth yr athraw, Mr. Jones; yn myned dan addysg y Parch. T. Jones, Minsterley; yn fugail Marton a Forden; ei lafur i ddiwygio annuwioldeb yr ardal; ei ymgyfamodiad i briodi; y ddadl rhwng y Parchn. L. Edwards, Bala, a S. Roberts, Llanbrynmair; cais ofer am iddo aros yn weinidog sefydlog yn Marton; dirgelwch ei lwyddiant; yn ymadael o Marton.

Pen. VI. Ei hanes yn Athrofa Aberhonddu;—Ei derbyniad i'r Athrofa;y Parch. C. N. Davies; ei ymroddiad i lafur; y pwys i efrydydd "hogi ei bladur;" ei lythyrau ar Church Extension; ei zel yn achos y Factories Bill, Masnach Rydd, Cymdeithas Heddwch, &c.; ei lafur llenyddol; YR AMSERAU a'r DRYSORFA GYNULLEIDFAOL; ei deithiau pregethwrol; yn derbyn amryw alwadau; y "weledigaeth o angylion" yn Nhalybont; ei brofiadau yn ngwyneb y galwadau, ac yn ei gystudd; yn cydsynio a galwad eglwys Saron, Tredegar

Pen. VII. Ei fywyd a'i lafur yn Nhredegar—Ei holl fywyd hyd yma yn rhagbarotoad i'w fywyd o lafur cyhoeddus o hyn allan; cyfarfod ei urddiad; "yr Hen Olygydd;" ei hanes personol a theuluol yn Nhredegar; ei ymroddiad i'w waith gweinidogaethol; ei