Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sylw yn ystod fy oes fer." Gwelem yn eglur, oddiwrth ei waith yn rhedeg mor fras dros y "rhai pethau " hyny, ac yn gadael allan luaws eraill, nad oedd ganddo y bwriad lleiaf i lygaid y cyhoedd byth ei weled, ond yn unig iddo fod yn drysorgell o adgofion iddo ef ei hun o'r pethau a gofnodai. Rhoddodd hwn hefyd i fyny wedi yr ymosodiad bygythiol o'i afiechyd yn y brifddinas yn 1849. Afreidiol yw dyweyd i'r ddau hyn fod o wasanaeth pwysig i ni yn nghyfansoddiad y Cofiant.

Yn tu dal. 9 o'r Cofiant, gwelir i'n cof bradwrus ein bradychu i roddi Dr. E. Williams, Rotherham, yn ein rhestr o "ddynion hunan wneuthuredig ” ein cenedl. Yr oedd rhieni y Doctor mewn am gylchiadau cysurus, a rhoddasant i'w mab addawol addysg dda i gychwyn ar yrfa ei fywyd. Felly, yr unig ystyr yn yr hwn yr oedd y duwinydd enwog yn ddyn felly ydoedd, yr ystyr y mae pob dyn a gyrhaedda enwogrwydd mewn unrhyw gylch yn rhwym o fod gwneyd y defnydd goreu o'i holl fanteision.

Fel y dengys y frawddeg ar ben ei wyneb—ddalen, bwriadem y Cofiant yn "Llyfr i Bobl Ieuainc," ac hefyd, hyd y gallem, i famau ein gwlad. Dwy ffaith wrth sylfeini isaf dyrchafiad moesol y ddynoliaeth syrthiedig ydyw, (1) yn ngeiriad hapus Wordsworth, mai "y plentyn ydyw tad y dyn;" (2) fod ffurfiad cymeriad moesol y plentyn a'r dyn yn ymddibynu mwy ar gymeriad a llafur ei fam nag ar unrhyw allu daearol arall. Y gallu moesol cryfaf ar y ddaear hon ydyw y FAM; a'r fan sicraf i osod y lever arno, tuag at ddyrchafu y ddynoliaeth, ydyw yr aelwyd. Er egluro y ddau wirionedd sylfaenol hyn y rhoddasom ddarluniadau llawer helaethach o'r plentyn ac o'r fam nag a geir mewn unrhyw Gofiant Cymraeg arall. Tebygol yw y bydd i'n hymgais i wneyd ein pennodau blaenaf yn ddyddorol ac addysgiadol i "bobl ieuainc " beri i bobl mwy oedranus eu dedfrydu yn annyddorol a difudd. Ein hamddiffyniad ydyw, ein hamcan, Amcanem ddangos i'w ddarllenwyr ieuainc, nad yw y dyn yn ddim amgen nag ymddadblygiad naturiol o'r plentyn; na thyfodd plentyn cyffredin, diyni, dilafur, erioed yn ddyn anghyffredin mewn byd nac eglwys; nad oedd y dyn IEUAN GWYNEDD yn Nhredegar, Llundain, a Chaerdydd, yr hwn a wnaethai ei enw yn "air teuluaidd " ar bob aelwyd oleuedig yn Nghymru, yn ddim amgen na'r bachgen aiddgar, darllengar, penderfynol, "Evan Tycroes," wedi ymddadblygu, na'i holl ddefnyddioldeb a'i enwogrwydd cenedlaethol yn ei fywyd cyhoeddus ond ffrwyth a gwobr naturiol ei yni a'i uchelgais a'i lafur diorphwys yn casglu gwybod aeth, yn "hogi ei bladur," trwy ei holl fywyd blaenorol er yn blentyn. Ei fam hefyd, yr oedd hithau, gyda'i holl hynodion, yn model o fam i holl famau Cymru, fel yr oedd ei mab Evan i'n meibion; a daw ein gwlad i allu ymffrostio mewn llawer mwy o feibion fel IEUAN GWYNEDD pan y bendithir hi â mwy o famau fel Catherine Jones.

Ond fe allai mai y rhanau o'r Cofiant y teimla y mwyafrif o'i ddarllenwyr fwyaf o ddyddordeb ynddynt ydyw Pen. IX. a X., yn y