Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhai y ceir manylion belaeth o brif orchestwaith bywyd IEUAN GWYNEDD, ei ddynoethiadau diarbed o fythgofiadwy "Frâd y Llyfrau Gleision," a'i amddiffyniad buddugoliaethus o'i wlad enedigol, o sobrwydd ei meibion, diweirdeb ei merched, a dylanwad moesol ei hiaith a'i Hymneillduaeth ar y genedl. Rhoddasom adroddiad llawer helaethach o frwydrau poethion y dyddiau hyny yn achos Moesoldeb, Addysg, ac Ymneillduaeth Cymru-brwydrau oll ag yr oedd IEUAN GWYNEDD yn brif arwr Cymru ynddynt-nag unrhyw helynt arall yn ei holl fywyd, am fod y brwydrau mawrion hyny, a ddechreuasant yn 1846, yn parhau yn mlaen eto yn 1876, fel y gall hanes yr ymosodiadau dechreuol brofi yn addysgiadol i'r brwydrwyr o bob tu sydd heddyw ar y maes yn ymladd dros yr un achosion.

Gwelir oddiwrth Pen. X. fod golygiadau Ymneillduwyr Cymru ar elfenau addysg yr ysgol ddyddiol wedi myned trwy drawsffurfiad rhyfedd er dyddiau IEUAN GWYNEDD. Dadleuai ef a'r mwyafrif o'r genedlaeth hono o Ymneillduwyr, yn yr iaith gryfaf, dros ddysgyblu plentyn yn yr ysgol ddyddiol, fel yn y Sabbothol, a phob cylch arall o'i addysg, fel creadur dau fyd, ac felly dros gydweu gwybodaeth Ysgrythyrol â'i addysg fydol. Er mwyn gallu gwneyd hyn yn hollol gyson âg egwyddorion rhyddid crefyddol, mynent gau allan bob ymyriad gan y Llywodraeth Wladol âg addysg a chynaliaeth yr ysgol. Gwelir eu holynwyr o'r genedlaeth hon wedi dyfod, gydag unfrydedd hynod, i'r penderfyniad gwrthgyferbyniol o dderbyn arian ac arolygwr y Llywodraeth i mewn i'r ysgol; a thuag at allu eu derbyn yn hollol gyson â rhyddid crefyddol, gau Llyfr Duw, pob addysg ac ymarferiad crefyddol, a phob dylanwad o fyd arall, allan o'r ysgol; diosg y plentyn, ar ei throthwy, o'i gymeriad moesol fel deiliad y Llywodraeth Ddwyfol, a'i drin ynddi yn gwbl fel creadur y byd a'r bywyd hwn. Gwelai IEUAN ragargoelion rhy eglur, cyn ei farw, mai syrthio a wnai addysg ei wlad i gadwynau euraidd y Llywodraeth. Yr ydym wedi croniclo ei brophwydoliaeth, nad fel hyn, yn gaeth yn nghadwynau y Llywodraeth, y mae addysg mwy na chrefydd y wlad i barhau byth-y daw y Llyfr Dwyfol eto i mewn i'r ysgolion dyddiol, gyda nerth ollorchfygol ei Awdwr, i "fwrw allan arianwyr" y Llywodraeth Wladol, "dymchwelyd ei Byrddau " Ysgol, a "chadeiriau y rhai oeddynt yn gwerthu " rhyddid moesol eu gwlad ynddynt, ac i alltudio addysg ddi-Fibl, ddi-Dduw, yn llwyr ac am byth allan o holl ysgolion dyddiol ein gwlad. Tybiem mai teg oedd rhybuddio ein brodyr, pleidwyr addysg ddi-Fibl, o fodolaeth y bro phwydoliaeth hon, fel nad elont i draul a thrafferth gormodol mewn gosod clöau a bàrau ar ddrysau ein hysgolion dyddiol yn erbyn y Llyfr mawr, os ydynt oll i fyned yn gwbl ofer,

Yr oedd cyfanswm holl ysgrifeniadau IEUAN GWYNEDD mewn amddiffyniad i'w wlad, ei moesau, ei haddysg, a'i chrefydd, ac yn erbyn ei chablwyr, yn aruthrol. Ceid hwynt yn draethodau, erthyglau, llythyrau, anerchiadau, &c., mewn chwarterolion, misolion, ac wyth nosolion Cymraeg a Saesonaeg Dehau a Gogledd Cymru, wythnos-