Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

olion a dyddolion y brifddinas a phrif drefydd eraill Lloegr, ac yn fân lyfrynau wrthynt eu hunain. Yn ein hadroddiadau yn Pen. IX. a X., ymdrechasom gasglu yn nghyd yr oll o bwys o ffeithiau, ffigyrau, ac ymresymiadau IEUAN a gawsom yn wasgaredig trwy yr ysgrifau aneirif hyn, a'u cyfleu mewn trefn dan wahanol benau, fel ag i wneyd yr oll yn un adroddiad cryno a darllenadwy. Pan y gallem, rhoddasom ei ffeithiau yn ei eiriau ef ei hun. Ped edrychid yn deg ar bob tu i'r ddadl rhwng yr Eglwys Sefydledig ac Ymneillduaeth, gellid dyweyd llawer o blaid yr Eglwys nad yw IEUAN wedi yngan gair am danynt. Nid cymeryd golwg gyflawn ar ddau du y ddadl hono oedd ei amcan. Gwaith Dirprwywyr Addysg, Ordovicis, a'u brodyr Eglwysig, oedd cyhoeddi y cyhuddiadau mwyaf echryslawn yn erbyn Cymru a'i Hymneillduaeth, fel mai gwaith priodol eu dadleuydd oedd eu hamddiffyn hwy, gwrthbrofi y cyhuddiadau yn eu herbyn, ac arddangos i'r cyhuddwyr ac i'r byd ansawdd a hanes gwrthgyferbyniol eu Heglwys hwy eu hunain. Fel y maent, ystyr iwn gynwysiad Pen. IX. a X. yn deilwng o sylw Eglwyswyr ac Ymneillduwyr Cymru, fel y crynodeb cyflawnaf yn yr iaith Gymraeg o brofiad a thystiolaeth Cymru ar ddadl fawr y Dadgysylltiad.

Nid oes genym bellach ond cyflwyno ein hadroddiad syml, anymhongar, o fywyd a llafur hen a hoff gyfaill ein hieuenctyd i'n cyd genedl, yn arbenig i'n "pobl ieuainc," gan obeithio yr anrhydedda "Ysbryd y Bywyd " ef i'w wneyd yn foddion i symbylu rhyw nifer o ysbrydoedd ieuainc galluocaf ein gwlad i efelychu yni a hunanymgysegriad gwladgarol ei wrthddrych; ac y profa hefyd, i ryw fesur, nad heb achos y parhâ cenedl y Cymry i anwylo ei enw a'i goffadwriaeth fel IEUAN GWYNEDD, er ei fod er's blynyddau lawer bellach yn IEUAN GWYFYD.

Y CYHOEDDWR.