ADOLYGIAD
AR
GYMERIAD A LLAFUR IEUAN GWYNEDD,
GAN Y PARCH. W. WILLIAMS, ABERCARN.
GORCHWYL anhawdd yw rhoddi darluniad cywir o gymeriad, a'i ddangos mor berffaith, fel y byddo ei gyfeillion yn ei adnabod, ac yn dywedyd, "Wele y dyn! Dyna wir lun ei berson a'i gymeriad ef, dyna ddarlun cywir o hono. " Mae yn anhawdd gwneuthur hyn ar ganfas, pan fyddo y person yn eistedd o flaen yr arlunydd, ac yntau yn cael golwg ar ei holl gorff, ac yn gweled pob llinell yn ei wyneb, ac yn edrych ar bob ysgogiad o'i eiddo. Ond llawer mwy anhawdd yw gwneuthur hyn mewn ysgrifen; oblegid y mae yn rhaid i'r bywgraffydd edrych ar weithrediadau y meddwl yn fwy na symudiadau y corff, a'i ddarlunio yn ol ei waith a'i ymddygiadau. Y mae ef i edrych ar gynyrchion y meddwl yn fwy nag ar lun ac agwedd y corff; oblegid y meddwl yw y dyn, a chynyrchion y meddwl sydd yn werth eu cofnodi. Mae yn ofynol cofio holl hynodion a helyntion ei fywyd, yn gystal a'i holl ymddygiadau. Duw yn unig a wyr beth sydd mewn dyn. Mae Ef yn gwybod am bob egwyddor cyn iddi gael ei dadblygu mewn gweithred. Mae Ef yn gweled y dyn i gyd ac ar unwaith.
Mae yn anmhosibl darlunio rhai dynion. Nid oes dim ynddynt, nac yn perthyn iddynt, sydd yn werth ei gofnodi. Yr oll a ellir ddyweyd am danynt ydyw, iddynt fwyta ac yfed, a "chymeryd byd da a helaethwych beunydd." Mae dynion eraill â digon o ddefnyddiau yn perthyn iddynt; ond defnyddiau cymhwys i dân ydynt. Cyflawnasant orchestion; ond buasai yn well i'r byd beidio cael gwybod am danynt. Yr oedd ganddynt dalentau; ond defnyddiasant hwynt i lygru cymdeithas. Cofir a sonir am danynt fel y sonir am "Jeroboam, mab Nebat, hwn a wnaeth i Israel bechu". Nid oes ond dinystr a cholledigaeth yn eu ffyrdd. Ni ddylid cadw dim mewn cof ond yr hyn a fyddo o wir werth, yn gwella y byd. Wrth draethu am alluoedd a gwybodaeth dynion, a chofnodi eu gweithredoedd, dylid cofio mai crefydd a rhinwedd yw prif addurniadau a gogoniant y ddynoliaeth. "Gwell yw enw da nag enaint gwerthfawr." Mae arogledd cymeriad da yn bereiddiach na'r enaint