Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwerthfawrocaf, ac y mae yn prydferthu dyn yn fwy na dim arall. 'Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer." Nid yn unig y mae yn well trysor i'w berchenog, ond yn well etifeddiaeth i'w adael ar ol i'r oesoedd dyfodol. Mae cyfoeth yn darfod, a'r dyn yn marw, ond y mae ei enw da a'i goffadwriaeth yn fyw, ac yn llefaru. Y mae gan Dduw lawer Abel sydd er "wedi marw yn llefaru eto " am dano pan yn gorwedd yn llwch y bedd. Nid llawer o son sydd am gyfoeth Job; collodd hwnw; ond sonir am amynedd yn y Testament Newydd—"Chwi a glywsoch am amynedd Job." Nid galluoedd a dysgeidiaeth Paul a'i gwnaethant mor enwog, ond ei ymdrech o blaid y ffydd. ' Mae coffadwriaeth Ieuan Gwynedd yn fendigedig, nid am ei fod yn llenor, ac yn meddu gwybodaeth helaeth, ond am ei fod yn wr o gymeriad da, ac yn "filwr da i Iesu Grist." Mae yn anmhosibl claddu coffadwriaeth dynion da. Er wedi marw, mynant fyw yn eu gweithredoedd a'u hymddygiadau. Er eu claddu, a threiglo maen ar ddrws y bedd, a gosod sel ar hwnw, adgyfodant y trydydd dydd. Nid claddu corff yr Arglwydd Iesu yn unig oedd yn ngolwg yr Iuddewon, ond claddu ei enw a'i goffadwriaeth. Taflasant bob gwarth a dirmyg ar ei gymeriad, eithr nis gellid cadw ei enw a'i goffadwriaeth yn nhir anghof, mwy nag y gellid cadw ei gorff yn y bedd. "Yr Arglwydd a gyfododd yn wir"—cyfododd ei achos a'i goffadwriaeth gydag ef. Y mae rhai dynion yn byw yn eu henwau a'u coffadwriaeth er pob ymdrech i'w lladd a'u claddu. Y maent yn byw yn eu gwaith. Mae yr awdwr yn marw, ond y mae y llyfr yn aros. Mae y gweithiwr yn disgyn i'r bedd, ond parhâ ei waith o oes i oes. Mae y pregethwr wedi dystewi yn angeu, ond y mae ei bregethau yn byw yn nghydwybodau ei wrandawyr. Mae Ieuan Gwynedd wedi marw er's blynyddau, ond y mae ei Weithiau yn aros, ac er wedi marw, y mae efe yn llefaru eto ynddynt a thrwyddynt hwy. Edrychwn ar

I. IEUAN GWYNEDD FEL DYN. Wele ef yn sefyll o'n blaen, ac i ni y mae yr olwg arno yn dywysogaidd. Corff tal a lluniaidd, ond o wneuthuriad gwan, ac yn deneu; gwallt du, dau lygad llym a threiddiol, yn edrych trwy bob peth, a thalcen uchel, ond nid ystafell wag, eithr un lawn o'r pethau prinion hyny, synwyr a gwybodaeth. Mae y wynebpryd yn ddangoseg o dreiddgarwch a phenderfynoldeb mawr. Dyna, mor belled ag yr ydym yn cofio, ydoedd yr hyn oedd farwol o Ieuan Gwynedd, ac nid hawdd i ni anghofio y ffurf a welsom gynifer o weithiau. Dyna y "daearol dŷ o'r babell hon," yn yr hwn y bu yn "ocheneidio yn llwythog"—y dyn oddiallan, yr hwn sydd yn cael ei falurio yn y bedd. Mae ei enaid mawr wedi ymeangu yn ddirfawr, er pan y cymerodd ei ehedfa i'w fro ei hun. Ein gwaith ni fydd tynu darlun o'r dyn, pan yn byw, symud, a bod yn ein mysg yma, dangos ei nodweddion, gosod allan ei ragoriaethau, edrych arno yn ei lafur a'i ymdrech, ac yr ydym am i'n darlun fod yn un cywir a theg. Hoffem arddangos y dyn a'r cristion mor berffaith, nes yr hoffa ieuenctyd ein gwlad syllu arno, a'i efelychu, a dywedyd, Dyma DDYN! Mae llawer ar