Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lun dynion heb fawr o'r dyn ynddynt. Ond dyma ddyn, a dyn mawr hefyd. Ni charem wneuthur y dyn yn angel, na gwneuthur gormod o'r dyn, a rhy fach o ras Duw. Dywedai Paul, "Nid myfi, ond gras Duw." Hyn hefyd oedd teimlad Ieuan, Nid myfi, ond gras Duw. Ni fuasai efe y peth ydoedd oni buasai gras Duw. Un peth yw bod yn fawr yn ngolwg dynion, peth arall yw bod yn gymeradwy ac anwyl gan Dduw. Yr oedd Ieuan yn fawr yn ngolwg dynion, ac yn gymeradwy gan Dduw hefyd.

Mae llawer blwyddyn wedi ymlithro heibio er pan y gwelsom Ieuan gyntaf, yn y flwyddyn 1839. Yr oeddym ni a chyfaill arall ar daith trwy y Gogledd, yn ddau fyfyriwr o Athrofa y Neuaddlwyd. Arferai "bechgyn y Neuaddlwyd," fel yr arferid eu galw, fyned ddau a dau ar deithiau yn amser y gwyliau i bregethu, a chaent dderbyniad croesawus gan yr eglwysi, llawer yn dyfod i'w gwrando, ac y mae lle i gredu iddynt fod yn foddion i droi llawer at yr Arglwydd. Ar y daith hon yr oeddym yn pregethu yn y Brithdir, ger Dolgellau, ganol dydd. Pan yn pregethu gwelem wr ieuanc tal, teneu, llwydlas, yn eistedd mewn man neillduol, ac fel yn ysgrifenu y pregethau. Yr oeddym i bregethu yn Nolgellau yn yr hwyr. Dygwyddai fod Cymanfa y Methodistiaid yn cael ei chynal yno ar y pryd, ac yr oedd cyfarfod diweddaf y Gymanfa yn dechreu am bump o'r gloch yn yr hwyr, a'n cyfarfod ninau am saith. Gan ein bod yn meddwl fod genym amser, aethom i'r cwrdd pump. Erbyn dyfod o hwnw yr oedd ein cyfarfod ni wedi dechreu, a'r gwr ieuanc a welsem yn y Brithdir yn dechreu y cwrdd. Ysgrifenu yr oedd Ieuan pan y tynodd ein sylw gyntaf, a'r ail olwg a gawsom arno oedd yn y pulpud, oblegid daethai i'n gwrando i Ddolgellau. Y lle cyntaf i ni gyfarfod â'n gilydd ar ol hyn oedd yn Aberhonddu, yn 1841, pan dderbyniwyd ni i'r Coleg, a ni oedd yr unig rai a ymddangosodd o flaen y pwyllgor ar y pryd. Pan welsom Ieuan gyntaf, darfu i ni ffurfio barn anghywir a hollol annheg am dano. Meddyliem ei fod yn rhy hyf i ateb i'w oed, a chasglem ei fod yn dueddol i edrych gyda dirmyg ar ei gydradd, a diystyru ei gydfyfyrwyr. Pan yn y teimlad hwn nis gallem ei fynwesu fel cyfaill, a phenderfynasom beidio myned yn rhy agos ato, rhag iddo gael cyfle i'n bychanu. Ond ni buom yn hir cyn gweled ein camsyniad, a buan y symudwyd yr argraff hwn yn llwyr o'n meddwl, ac er ein gwaethaf daethom i edrych arno fel y cyfaill mwyaf mynwesol, ac ni chawsom byth ein siomi. Mor hawdd yw ffurfio barn annheg am ddynion teilwng a da, a meithrin rhagfarn atynt! Mae yn hawdd i ni gael ein twyllo. Mae rhai yn myned yn waeth wrth ymgydnabyddu â hwynt, ond yn gwella yr oedd Ieuan. Gwella y mae pob cyfaill cywir. Mae dynion i'w cael, yr olwg gyntaf arnynt yw y goreu; ond pa fwyaf adna byddus y deuwch o honynt, lleiaf oll yr ydych yn eu hoffi. Nid "o helaethrwydd y galon y llefara y genau" a'r wyneb. Mae yn ddigon aml i chwi gyfarfod â'r dynion hyn unwaith bob deng mlynedd. Nid un tebyg i'r rhai hyn oedd Ieuan. Pa fwyaf y byddid yn ei gyfeillach, mwyaf oll y cerid ef. Yr oedd yr adnabyddiaeth o hono