Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn cynyddu yn ymddiried ynddo; ceid fod ei galon mor siriol a'i wyneb. Nid oedd gweniaeth yn agos ato. Os ymadroddion teg a ddyferent dros ei wefusau, gellid penderfynu eu bod yn arddangosiad cywir o deimlad y galon. Pan fyddai ganddo gyfaill, cadwai gariad. Fe allai nad yr olwg gyntaf fyddai yr olwg oreu arno, ac nid ar unwaith y gwelid sirioldeb ei galon, ac uniondeb ei gymeriad; ond yr oedd yn gyfaill cywir—yn "ddyn da, o drysor da ei galon yn dwyn allan bethau da." Yr oedd yn ddyn—yn ddyn cyflawn, ac nid haner dyn. Yr oedd wedi ei wneuthur a'i brydferthu gan natur, a'i ail wneuthur gan ras Duw. Nis gellid bod yn hir yn ei gyfeillach heb deimlo ei fod yn un oedd "yn ofni Duw, ac yn cilio oddiwrth ddrygioni."

Daeth Ieuan yn ddyn pan nad oedd ond bachgen o ran oed. Ym ddadblygodd ei alluoedd yn foreu, a gwisgai holl agweddau gwr, pan nad oedd yr olwg arno ond plentynaidd. Mae yn debyg i hyn fod yn anfantais fawr iddo gyda llawer. Nid yw dynion yn hoffi cael eu dysgu gan fechgyn. Yr oedd yn meddu y gallu i ddysgu pan yn fachgen—"fel gwr y llefarai, ac fel gwr y deallai," pan nad oedd ond "bachgen," ac wedi " rhoi heibio bethau bachgenaidd cyn ei fod yn ddyn o ran oed. Yr oedd Timotheus yn ddyn cyflawn pan yn dra ieuanc. Am hyny yr ysgrifenai Paul ato, "Na ddiystyred neb dy ieuenctyd di." Mae llawer o ddynion yn dra pharod i ddiystyru y dyn yn y bachgen. Yr oedd Ieuan Gwynedd, fel Timotheus, er yn fachgen yn gwybod yr ysgrythyr lân," ac, fel yntau, wedi cael ei ddysgu gan ei fam yn egwyddorion yr hen lyfr santaidd hwn. Nid llawer o ddynion enwog a gaed yn y byd nad oedd rhywbeth yn enwog yn eu mamau, fel mamau Moses a Samuel. Dyn mawr oedd Ieuan, ac yr oedd ganddo fam hynod—mam a weddïodd lawer drosto, ac a fu yn dra gofalus am ei foesau, ac a ymdrechodd lawer i'w ddysgu yn "addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd." Gwelid arwyddion o fawredd ynddo pan yn ieuanc. Hawdd oedd gweled y dyn mawr yn y plentyn, ac yr oedd rhai dynion llygadgraff yn barod i ddyweyd am dano, fel yr angel am Ioan Fedyddiwr, "Mawr fydd efe yn ngolwg yr Arglwydd." Gan na fwriadai Duw iddo gael aros yn hir yn y byd, cymhwysodd ef yn ieuanc at ei waith. Mae dynion yn gwahaniaethu, nid yn unig yn eu galluoedd meddyliol, ac yn null dadblygiad y galluoedd hyny, ond hefyd yn amser eu dadblygiad. Arafaidd iawn y bydd meddyliau rhai yn ymagor ac ymddadblygu. Maent yn hir yn dyfod yn ddynion—rhai dynion mawr wedi cyrhaedd deugain mlwydd oed cyn i'r byd feddwl fod dim ynddynt. Mae meddyliau eraill yn ym ddadblygu yn foreu, ac y maent yn ddynion mawr cyn fod y byd yn meddwl eu bod yn fwy na phlant. Mae rhyw addfedrwydd yn eu barn a'u penderfyniadau sydd yn profi eu bod yn ddynion anghyffredin. Gwnant waith oes mewn haner oes. Mae rhywbeth yn sibrwd wrthynt, "Brysiwch at eich gwaith; mae eich hamser yn fyr a'ch gwaith yn fawr." Mae ganddynt allu i wneyd pob peth yn gyflym, a gadawant argraff ar y byd mewn ychydig o flynyddoedd.