Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gadawodd Ioan Fedyddiwr ei ôl ar ei gydgenedl mewn amser byr. "Efe oedd ganwyll yn llosgi ac yn goleuo." Aeth y son am dano trwy yr holl wlad, a theimlodd Herod a'i lys yn Galilea oddiwrth nerth ei weinidogaeth. Amser byr a gafodd Ieuan Gwynedd i weithio gwaith yr Hwn a'i hanfonodd; ond cafodd alluoedd cymhwys i wneyd gwaith mawr mewn oes fer. Fel hyn y mae Duw yn rhoddi y naill beth ar gyfer y llall, Os bydd Duw yn rhoddi gwaith mawr, rhydd allu mawr i'w gyflawni; ac os na cha y dyn oes hir i weithio, rhydd iddo gymhwysder i ddechreu gweithio yn foreu, a nerth i wneyd llawer o waith mewn ychydig amser. Mae yn rhesymol dysgwyl i'r dyn sydd yn myned i orphwys yn gynar, i godi yn foreu. Yr oedd Ieuan i fyned i orphwys yn gynar yn y dydd, am hyny yr oedd Duw wedi ei godi yn foreu, a'i gymhwyso at ei waith.

Mae rhai pethau o'r un natur yn llawer prydferthach na'u gilydd; felly y mae rhai cymeriadau yn ddysgleiriach ac enwocach nag eraill. Ond dylid ystyried mai ffynonell pob perffeithrwydd yw Duw; a pha mor brydferth bynag yr ymddengys ei greaduriaid, nad yw ond gwreichionen o hono Ef, neu adlewyrchiad gwan o'r prydferthwch sydd yn hanfodol ynddo Ef. Duw sydd yn llunio ac yn ail—lunio; Efe sydd yn prydferthu ac yn caboli ei greaduriaid, ac yn peri iddynt ddysgleirio "megys goleuadau yn y byd." Yr oedd Natur wedi llunio Ieuan yn hardd, ond cafodd "ei greu o newydd yn Nghrist Iesu i weithredoedd da." Mae gras yn dadblygu ac yn dwyn i'r amlwg y rhanau mwyaf prydferth oedd yn y dyn, ac yn ei gymhwyso i wneuthur gwaith Duw, Mae delw Duw ar ei enaid yn ei brydferthu. Yn lle bod yn dywyllwch, mae yn oleuni yn yr Arglwydd. Yr oedd Ieuan yn meddu galluoedd cryfion a chyflym, a chafodd y galluoedd hyny eu santeiddio gan ras Duw, a'u cysegru i'w wasanaeth.

1. Cynysgaeddwyd Ieuan Gwynedd fel dyn â synwyr cryf ac amgyffredion cyflym. Medrai amgyffred yn fuan bethau nad oedd wedi darller am danynt na myfyrio arnynt yn flaenorol. Yr oedd yn un o feddwl mawr, ac o feddwl eglur. Nid oedd yn " tywyllu cynghor âg ymadroddion heb wybodaeth." Yr oedd ganddo lygad craff, meddwl cyflym, a gallu i osod allan ei feddwl yn eglur, mewn ymadroddion destlus a choethedig. Ac ystyried pobpeth, nid yn aml y cyfarfyddid âg un mor gyflawn ag ef yn mhob ystyr. Yr oedd yn un o'r "cedyrn a fu wŷr enwog gynt"—yn feddianol ar gyneddfau cryfion, gwybodaeth eang, a gallu i droi pob peth i ym. arferiad ac er llesoli ei gyd—ddynion. Mae yn wir iddo lafurio yn galed i wrteithio ei feddwl a chasglu gwybodaeth. Nid oedd yn credu mewn segurdod a diogi meddyliol. Yr oedd meddwl yn bleser iddo, ac nid yn faich, a phob gwybodaeth yn wledd ddanteithiol i'w enaid. Ymddangosai yn feistr ar ei waith, a medrai wneuthur pob peth a berthynai i ddysg a llenyddiaeth yn ddidrafferth. Nid ymddangosai un amser yn cael ei orlwytho yn y cyflawniad o'i waith. Dangosai hyn nerth meddwl yn gystal a meddwl