Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweithgar. Gwnaeth lawer o waith pan yn y Coleg, ac yr oedd yn drefnus ac amserol gyda phob peth. Mae yn wir nad oedd ei iechyd yn gryf yn amser ei efrydiaeth, ond gofalai am dano yn well na llawer o'i gydfyfyrwyr. Gwr gofalus ydoedd ef am bob peth—am ei waith, ei iechyd, ei gymeriad, a'i grefydd. Cafodd y dwymyn nychlyd ddwywaith yn ystod y pedair blynedd y bu yn Aberhonddu, er hyny aeth trwy ei fyfyrgylch yn anrhydeddus er ei fynych wendid a'i nychdod. Yr oedd ei wybodaeth gyffredinol yn helaeth pan ddaeth i'r Coleg, yn fwy felly na'r rhan fwyaf o'i gydfyfyrwyr, yr hyn a brofodd yn dra manteisiol iddo. Sychedai am lyfrau, ac yr oedd ganddo fwy o amser na llawer i'w darllen. Yr oedd wedi ymgydnabyddu â llenyddiaeth er yn blentyn. Darllenai y newyddiaduron a'r cyfnodolion misol a gylchredent yn y Dywysogaeth. Trwy hyn daethai yn hyddysg mewn gwleidyddiaeth a hanesyddiaeth, ac yn alluog i ffurfio barn am egwyddorion gwleidyddol a chrefyddol. Hyn a'i cymhwysodd i fod yn amddiffynwr i'w wlad ac i Ymneillduaeth, yn amser helynt y "Llyfrau Gleision." Casâi ormes â chas cyflawn. Yr oedd gormod o'r dyn a'r cristion ynddo i beidio cydymdeimlo â'r gwan a'r gorthrymedig. Gofidiai yn fawr wrth weled yr awyrgylch wleidyddol mor gymylog ar ol chwyldroadau y flwyddyn 1848, ac arwyddion mor amlwg fod gwrthweithiad yn dechreu cymeryd lle i adsefydlu trawslywodraeth. Yr ydym yn cofio ein bod yn ei dŷ tua dechreu y flwyddyn 1850. Wrth ymddyddan am wahanol bethau, a son am helyntion y byd, gofynasom iddo, beth oedd yn ei feddwl am sefyllfa gwledydd y Cyfandir? Atebodd ei fod yn ofni y byddai y rhyddid oedd y werin wedi ei enill yn sicr o gael ei golli. "Mae pob arwyddion," meddai, "fod cadwynau gorthrwm yn cael eu sicrhau yn dynach nag o'r blaen." Priodolai hyny i annoethineb y werin, a'r awydd sydd mewn dosbarth mawr o ddynion i wrthod cydnabod hawliau eu cyd-ddynion. Yr oedd ganddo lygad craff i weled arwyddion yr amserau, a gallu i ddyfalu beth fydd canlyniadau naturiol pob symudiad mawr a phwysig a gymerai le yn y byd gwleidyddol a chrefyddol. Edrychai yn obeithiol ar y dyfodol. Nid oedd yn un o'r rhai hyny na welant ddim yn y dyfodol ond cymylau a thywyllwch. Os gwelai ef ond "cwmwl bychan, fel cledr llaw gwr, yn dyrchafu o'r môr," credai fod cawod fendithiol ar ddisgyn, a bod hyny yn arwydd o welliant cymdeithasol. Credai mai "y Duw Goruchaf sydd yn llywodraethu yn mreniniaeth dynion," ac yr oedd ei ddyfalion am symudiadau mawrion yn gyffredin yn lled gywir.

2. Yr oedd wedi ei gynysgaeddu â meddwl gweithgar. Nid yn unig yr oedd ganddo feddwl cryf, ond hefyd feddwl bywiog a gweithgar. Mae yn bosibl fod gan ddyn feddwl mawr a chryf, heb fod yn feddwl gweithgar. Ond yr oedd Ieuan yn weithiwr. Darllenodd a meddyliodd ac ysgrifenodd lawer mewn amser byr. Dywedid ei fod wedi meistroli pob llyfr yn nhŷ ei dad pan oddeutu naw mlwydd oed, ynghyd a llawer o lyfrau a fenthyciasai mewn manau eraill. Er fod y corff yn wan, yr oedd yr ysbryd yn barod. Yr oedd y corff