Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ddarostyngedig i'r meddwl, y gweledig i'r anweledig, yr anifail yn gorfod plygu i'r dyn. Mae dynion i'w cael â'r meddwl ynddynt yn ddarostyngedig i'r corff, yr anifail yn ben ar y dyn, y telpyn cnawd sydd am danynt yn llethu yr ychydig feddwl sydd ynddynt. Ond am Ieuan, "er llygru ei ddyn oddiallan, yr oedd y dyn oddimewn yn cael ei adnewyddu o ddydd i ddydd," yr ysbryd a'r meddwl yn gryf pan yr oedd y corff yn wan. Golygfa hardd yw gweled meddwl yn trechu mater, ac yn dwyn i'w wasanaeth yr elfenau cryfaf mewn natur. Y gallu hwn sydd yn gwneuthur y gwynt, y tân, a'r ager yn weision ffyddlawn i ddyn, sydd yn adeiladu y ddinas, yn aredig yr eigion, ac yn gwneuthur i'r anialwch flodeuo fel rhosyn. Gallu arall yw nerth mewnol penderfyniad yn codi oddiar egwyddorion moesol. Hwn yw y gwerthfawrocaf o bob dawn—hunan-lywodraeth, gallu i wrthsefyll profedigaeth, i ddyoddef cystudd, i wynebu peryglon, ac i ddilyn argyhoeddiadau, er gwaethaf bygythion a gwawd y byd. Yr oedd yr elfenau hyn yn amlwg yn Ieuan Gwynedd. Nid elfenau oeddynt yn gorwedd o'r golwg neu yn cael eu darnguddio, ond elfenau byw, ac yn cael eu dangos yn ymarferol mewn gwaith ac ymdrech caled. Nid oedd gwendid y corff yn lladd bywiogrwydd y meddwl, na llesgedd y dyn oddiallan yn atal gweithgarwch y dyn oddimewn. Yr oedd ef yn gweithio mewn gwendid ac mewn poen, yn gweithio ar wely cystudd, yn gweithio hyd angeu. Pan y dirdynid y corff gan arteithiau cystudd, yr oedd y meddwl yn iach a bywiog. Pan yr oedd y corff yn gofyn am orphwys, yr oedd y meddwl yn galw am waith, ac yn rhoddi digon o waith i bin yr ysgrifenydd buan tra y parhaodd y bysedd meinion i allu ei ddal. Penderfynai weithio, am y gwyddai mai bywyd o waith yw bywyd y dyn defnyddiol, a bod yn rhaid ymdrechu cyn cael y fuddugoliaeth—mai i'r lluddedig y bydd yr orphwysfa yn felus, mai i orchfygwyr y cedwir y goron. Yr oedd mewn llafur parhaus, ac wrthi â'i holl egni, " mewn amser, ac allan o amser." "Llawer un a weithiodd yn dda, ond efe a ragorodd arnynt oll."

3. Llinell amlwg yn nghymeriad Ieuan Gwynedd fel dyn oedd er benderfyniad diysgog i sefyll dros y gwir, a dim ond y gwir. "Safai yn wrol yn erbyn pob anghyfiawnder a thwyll, a thros yr hyn a ystyriai yn iawn. Yr oedd yn cryfhau mewn gwrthwynebiadau, ac yn casglu nerth mewn tywydd garw. "Efe a nerthwyd o wendid, a wnaethpwyd yn gryf mewn rhyfel, ac a yrodd fyddinoedd o anhaws derau i gilio." Yr oedd yn wrol i ddilyn argyhoeddiad, am ei fod yn ofni Duw yn fwy na dynion, a mwy o barch ganddo i wirionedd nag i osodiadau dynol. Gwell gan y dyn cydwybodol golli man teision bydol na cholli yr hyn nas gall holl drysorau daear ei bwr casu, a cholli gwên y byd na thynu gŵg y Nefoedd. Ei "lawenydd yw tystiolaeth ei gydwybod." Mae yn ofni caru esmwythder a byd da yn fwy na charu Duw, a bod yn ddefnyddiol yn y byd drwg presennol. Mae yn ymddiried yn y gwirionedd, ac yn byw yn y goleuni, a phenderfyna sefyll dros egwyddor beth bynag fyddo yr amgylchiadau. Nid yw amgylchiadau allanol yn newid ei egwydd-