Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ateb i chwi yn y peth hyn." Ei ymostyngiad i awdurdod Duw a'i hataliai i ymostwng i awdurdod dynol, pan yn groes i Air ac awdurdod y Goruchaf.

"Llew cryf ar y ffordd " ydoedd Ieuan. Ni adawai lonydd i bechod. Gwnaeth lawer dros grefydd a thros ei wlad. Yr oedd wedi ei ddysgu i Deyrnas Nefoedd, yn was ffyddlawn a llafurus a llawn zel dros Dduw a chrefydd, ac yn ddiofn a gwrol yn ngwaith yr Arglwydd. Gwelir ei allu a'i wroldeb yn ei draethawd ar Ymneillduaeth a Moesoldeb Cymru, a'i waith yn cynhyrfu yr holl wlad yn erbyn camddarluniadau y Saeson o addysg, moesoldeb, a chrefydd y Dywysogaeth. Nid ofnai wyneb dyn i wneuthur yr hyn oedd iawn, ac nid oedd Arglwyddi Cynghor Addysg yn ei ddy chrynu. Credai wirionedd yr hen ddiarebion Cymreig, "Trech gwlad nag arglwydd;" "Y gwir yn erbyn y byd." Yr oedd ganddo feddwl mawr am grefydd a moesoldeb ei gydgenedl, ac ni allai oddef iddi gael ei henllibio gan neb. Yr oedd ei enw yn arswyd i ormeswyr a chamddarlunwyr ein gwlad. Dynoethodd ddrygioni, ffolineb, ac anwiredd llawer un a fynai fod yn fawr wrth gamddar lunio a gorliwio cymeriad moesol a chymdeithasol y Cymry. Pleidiodd iawnderau gwladol, rhyddid crefyddol, a phurdeb cymdeithasol, gydag egni dïail. Yr oedd ei egwyddor yn gryfach na gweniaeth, gwirionedd yn trechu pob gwrthwynebiad, a chariad at burdeb yn fwy na'r awydd am anrhydedd. Anhawdd iawn yw myned yn erbyn y llif, eto rhaid i bob un sydd am wella y byd ddysgwyl gwrthwynebiadau, a chanu yn iach i esmwythder. Mae yn aflonyddu ar dawelwch dynion i fyw yn eu pechodau, ac am hyny y maent yn ei feio fel aflonyddwr ac ymrysonwr. Gwyddai Ieuan Gwynedd hyn gystal a neb; er hyny penderfynai sefyll yn erbyn y cenllif. Gwelsom ei ymdrechion i wella cymdeithas yn amser ei arosiad yn Nhredegar. Mae llawer a garant yr enw o fod yn ddiwygwyr, ond ni wnant yr aberth gofynol, ac ni fynant gael eu galw yn aflonyddwyr y byd. Ond nid yr enw oedd yn ei olwg ef, eithr teimlad cryf dros lesâd dynion, ac ofn i wirionedd gwympo yn yr heol. Ni ofalai gymaint am ŵg dynion, os mewn un modd y gallai gyrhaedd ei amcan mawr, sef gwella y byd. Ni phallai efe, ac ni ddigalonai, hyd oni osodai well trefn ar gymdeithas yn y cylchoedd y troai ynddynt. Gwir ewyllys ei galon, a'i weddi ar Dduw dros ei genedl, oedd er iachawdwriaeth. Parai llygredd cymdeithas ddirfawr ofid iddo, yn enwedig pan welai ei gydwladwyr yn ymdroi mewn meddwdod a phechodau eraill. Ni pheidiai a'u rhybuddio o'u ffolineb, a llefaru yn hyf am y canlyniadau. Nid adwaenem neb mwy awyddus am ddyrchafiad moesol a chymdeithasol ei gyd-genedl nag ef. Er mwyn hyny y llafuriodd yn galed. Codai ei benderfynolrwydd oddiar ei zel dros yr hyn a ystyriai yn gywir, a'i ymddiried mewn gwirionedd Dwyfol, ac yn nerth y gwirionedd hwnw i wneyd trefn ar y byd. Cyfoda penderfynolrwydd rhai oddiar eu hymddiried ynddynt eu hunain. Hunan sydd mewn golwg ganddynt; iddynt eu hunain y maent yn byw, ac ynddynt eu