Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hunain y maent yn credu. Iddynt eu hunain yr edrychant am bob nerth ac adnoddau i weithio eu ffordd trwy y byd. Ond yr oedd Ieuan yn ymwybodol fod Duw yn y byd, a theimlai mai ei ddyledswydd oedd ymdrechu enill y byd at Dduw. Yr oedd wedi ei ddysgu yn egwyddorion crefydd a rhinwedd gan ei rieni, ac nid ofnai fyw a marw yn ngafael yr egwyddorion hyny. Yr oedd ganddo ffydd ynddo ei hun hefyd, sef yn y gallu a'r cymhwysderau a roddasai Duw iddo at ei waith; ond yr oedd ef ei hun a'i ffydd yn cael eu llyncu i fyny yn y ffydd oedd ganddo yn yr Anfeidrol.

4. Nodwedd arall yn nghymeriad Ieuan oedd gallu i ddyoddef. Medrai nid yn unig fyned trwy wrthwynebiadau, ond medrai ddy oddef cystudd. Un peth yw bod yn gystuddiol, peth gwahanol yw dyoddef cystudd yn amyneddgar a dirwgnach. " Tydi gan hyny goddef gystudd." Mae hyn yn codi oddiar allu moesol, o'r gredin iaeth nad yw ein cysur yn ymddibynu ar yr allanol. Mewn gair, hwn yw y cristion boddlongar. Mae rhywbeth yn y dyn nad yw yn ymddibynu ar amgylchiadau allanol. Pan y mae tymhestl oddiallan iddo, mae cerdd oddifewn. Mae dyoddef cystudd yn arwydd o ysbryd dewr, a'r dewrder hwnw yn codi o ffydd; "Canys efe a ymwrolodd, fel un yn gweled yr anweledig. " Mae ffydd yn edrych heibio i'r allanol, ac yn pwyso ar yr anweledig a'r tragwyddol; " Canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac nid wrth olwg." Am hyny nid yw cystuddiau yn ein llethu, ac yn tori ein calonau. Cafodd Ieuan lawer o gystuddiau, ond yr oedd yn " ddyoddefar mewn cystudd, ac yn llawen mewn gobaith." Nid oedd cystudd yn difa ei holl gysur, nac yn pylu llygad ei ffydd. Yr oedd ganddo ymborth nas gwyddai y byd ddim am dano. Ni threuliai ei amser i gwyno ac ochain, ond dyoddefai yn dawel a dirwgnach. Gwelsom ef ddwywaith mewn cystudd a gwendid mawr yn Aberhonddu, a buom yn llygad-dyst o'i gystudd a'i drallodion yn Nhredegar. Yn Medi, 1846, ganwyd iddo fab, ac yn Hydref dilynol gwelodd ei gladdu ef. Diwrnod digon tywyll i Ieuan oedd hwnw y cauodd y bedd ar John bach. Nid oedd ei iechyd yntau ond gwael, a chafodd y trallod o weled ei anwyl briod yn nychu, a myned yn ysglyfaeth i'r darfodedigaeth; ac yn Ebrill, 1847, gwelodd hi yn cael ei gosod yn ei gwely pridd, i orwedd hyd foreu udganiad yr udgorn mawr. Gwelsom ef yn ei gystudd mawr yn Llundain. Pan yr ymadawsom âg ef yno, nid oedd genym ond gobaith gwan y gwelem ef byth mwy. Ond er ein syndod mawr, y peth cyntaf a glywsom am dano oedd ei fod wedi dychwelyd yn ol i Gaerdydd, ac yn fuan derbyniasom nodyn oddiwrtho yn hysbysu ei fod ychydig yn well. Yn briodol y gallasai ef ddyweyd, "Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth swn dy bistylloedd di; dy holl dônau a'th lifeiriaint a aethant drosof fi." Ond er fod tôn ar ol tôn yn myned drosto, nid oedd ei enaid yn cael ei lethu. Medrai feddwl a gweithio yn ei gystudd. Dywedir fod Thomas Hood wedi cyfansoddi ei ddarnau goreu ar wely cystudd, a phan yn y poen mwyaf. Ysgrifenodd Ieuan Gwynedd rai o'i brif weithiau Cymreig mewn ysbaid dwy flynedd, pan oedd ar yr