Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn y cyfeiria at yr oriau difyr a dreuliai yn nghymdeithas yr Archddiacon Williams o Aberteifi, a Charnhuanawc, dau offeiriaid, ond dau Gymro twymgalon, a dau yn teimlo i'r byw oherwydd y cam a wnaethai awdwyr y "Llyfrau Gleision" â'n cenedl. Yr oedd y tri yn hynod am eu cariad at eu gwlad. Mae hyn yn dangos fod Ieuan yn rhy eangfrydig i beidio gweled gwerth dynion da perthynol i bob plaid grefyddol.

II. EDRYCHWN AR IEUAN GWYNEDD YN EI GYMERIAD A'I GYSYLTIADAU CREFYDDOL.

1. Ei grefydd bersonol. Yr oedd yn ddyn crefyddol, a'i dduwioldeb yn amlwg, ac yn gadael argraff ar bob peth a wnai. Nid egwyddor farw ynddo ef ydoedd, ond "ysbryd y peth byw" yn olwynion ei enaid, a lle yr ai yr ysbryd, yno yr ai yntau. Ei grefydd oedd y gem prydferthaf yn ei gymeriad. Gallasai fod yn ddyn o alluoedd cryfion a gwybodaeth eang, yn ddyn ymchwilgar a phenderfynol, ond nid yn ddyn cyflawn, wedi ei gyflawni â holl gyflawnder Duw, heb grefydd. "Dewisodd y rhan dda" pan yn dra ieuanc; teimlodd "newyn a syched am gyfiawnder," ac aeth i babell y cyfarfod i gael golwg ar Dduw yn y cwmwl, ac i siarad âg Ef fel pechdur. Teimlodd ei fod yn euog, a llefodd am drugaredd. Credodd yn Nuw, ac nid rhyw fath o gredo oedd ganddo ef; nid damcaniaeth yn unig ydoedd; nid un yn gwybod y dirgelion oll, a phob gwybodaeth, ac eto heb gariad; nid goleu yn y pen, heb ras yn y galon. Ond credo yn effeithio ar ei holl ymarweddiad—credo a bywyd ynddo "ffydd yn gweithio trwy gariad; " "credais, am hyny y lleferais." Ni fyn pechadur siarad â Duw nes y daw i gredu. Credai yn Nuw yn ol yr hen ddull Puritanaidd; credai yn ei fawredd, ei ragluniaeth a'i benarglwyddiaeth. Derbyniodd y Beibl fel rheol ei ffydd a'i ymarweddiad, fel ewyllys ddatguddiedig Duw, a'i fod yn cynwys pob gwirionedd hanfodol i iachawdwriaeth. Yr oedd pethau y Llyfr yn argraffedig ar lechau ei galon, y brophwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo. Mae yn dra phwysig i ddyn gael addysg grefyddol—pan yn ieuanc. Dyma yr adeg sydd yn gadael argraff arosol ar y meddwl. Mae fel yr afon, yr hon sydd yn fechan yn ymyl ei tharddiad, ond yn dyfnhau ac yn ymledu yn ei rhediad i'r môr. Felly addysgiadau crefyddol, nid ydynt ond bychain a gwan ar y cyntaf, ond y maent yn dyfnhau ac yn casglu nerth mewn amser, a'r ffrwd fechan yn dyfod yn ddyfroedd nofiadwy. Cafodd Ieuan ei wreiddio yn egwyddorion crefydd pan yn blentyn, a bu "y ffrwyth yn santeiddrwydd, a'r diwedd yn fywyd tragwyddol." Tynodd ei grefydd o'r Beibl—y "Beibl Coch." (Gwel "Fy Mam.") Mae dysgeidiaeth yn debyg o effeithio ar y plentyn. Effeithiodd ar Ieuan, a bu yn foddion i'w ddwyn i barchu y Beibl, a chredu ei wirioneddau, Teimlodd nas gallai fyw a bod yn ddedwydd heb grefydd. Gellir bod yn ddedwydd heb gyfoeth ac anrhydedd bydol, heb wisgoedd gwychion a gwleddoedd danteithiol; ond nis gellir byw a marw yn ddedwydd heb grefydd. Yr oedd crefydd Ieuan yn ffrwyth cyfnewidiad graddol, ac nid argyhoeddiad disymwth. Nid llewyrch-