Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iad disymwth goleuni o'r Nef a'i dygodd i ofyn am drugaredd, ond goleuni gweinidogaeth moddion yn llaw Ysbryd Duw yn llewyrchu fwyfwy i'w feddwl, nes yr aeth y goleuni Dwyfol trwy ei holl enaid. Ni synwyd ef gan odidawgrwydd y datguddiedigaethau, a'i daro â dallineb gan ogoniant y Shechinah, nes haner gwallgofi; eithr Duw, "o'i wir ewyllys, a'i henillodd, trwy air y gwirionedd," i afael "yr eneiniad oddiwrth y Santaidd hwnw," i wneuthur yr ewyllys Ddwyfol. Nid cynhyrfiad y teimlad oedd ei grefydd, ond egwyddor, ac ystyriaeth o'i rwymau i Dduw. Am hyny yr oedd yn gyson yn ei grefydd, ac yn ofalus am ei aelodaeth. Pa le bynag yr äi, yr oedd am ddangos ei fod yn aelod eglwysig. Mae rhai dynion a dybiant eu hunain yn lled bwysig yn y byd crefyddol, yn dra diofal am eu haelodaeth, ac yn dra esgeulus o'u cydgynulliad. Nid un felly oedd ef, ond gwr gofalus am yr achos lle y byddai yn aelod. Credai mewn crefydd gymdeithasol, ac yr oedd yn ofalus am iawn drefn a chynaliad yr addoliad cyhoeddus. Wedi rhoddi heibio ei ofal gweinidogaethol, parhaodd yn ffyddlawn fel aelod yn ol ei allu. Yr oedd yn hoffi gwrando yr efengyl, ac ymdrechu i gynal y weinidogaeth. Cof genym iddo ddywedyd wrthym y pleser a gawsai yn gwrando y Parch. J. Evans, y Cymmer, yn pregethu. Credai fod Mr. Evans yn ddyn gwir grefyddol, yn gystal ag yn bregethwr da. Nid oedd neb a werthfawrogai gymeriad da a dyn ffyddlawn yn fwy nag ef. Ataliai ei gystudd a'i wendid ef i fynychu moddion gras mor gyson ag y dymunai; er hyny sychedai ei enaid am y Duw byw, ac yr oedd ganddo "gysegr bychan," lle yr oedd yn mwynhau y Presenoldeb Dwyfol, ac y tywynai y Gogoniant ar ei enaid. Gallai edrych ar gysegr santeiddiolaf crefydd o'r man lle yr oedd, a synid ef gan y "mawr ragorol ogoniant," nes peri iddo ddywedyd, pan yn swn tonau yr afon, a'r llen ar gael ei rhwygo rhyngddo a'r anweledig, "What mysteries!—what great mysteries!" Aeth ei grefydd gydag ef trwy y glyn.

2. Y Pregethwr a'r Gweinidog. Mae dynion yn troi mewn gwahanol gylchoedd, ac y mae gan y cylchoedd hyny fanteision ac anfanteision i ddylanwadu ar y byd. Mae y dyn sydd yn gweini mewn pethau santaidd, yn myned o flaen arch Duw, ac yn arwain y bobl tua Chanaan, yn troi mewn cylch pwysicach, ac yn gwasanaethu mewn swydd uwch, na neb arall. Ond nid yw y swydd ddim, heb gymhwysder i'w llanw. Mae yn ddigon posibl i ddyn fod yn y swydd uchaf heb wneuthur dim daioni. Mae llawer yn myned trwy y byd heb i neb eu gweled, pan y mae eraill yn tynu sylw y byd, ac yn peri iddo deimlo eu bod yn ddynion anghyffredin, ac yn meddu gallu mawr i ddylanwadu ar eu cyd-ddynion. Camddefnyddir y gallu hwn yn aml er niwed mawr i gymdeithas. Dyma y gallu sydd yn deffroi, yn goleuo, ac yn dyrchafu y ddynoliaeth. Gellir yn briodol ei alw yn ddwyfol, oblegid nid oes un gweithredydd o eiddo Duw yn fwy bendithiol na'r hwn a ddylanwada ar greaduriaid rhesymol i debygoli i Dduw, a'u dyrchafu mewn rhinwedd, ac yn cynyrchu ynddynt gariad at wirionedd ac at