Dduw y Gwirionedd, a'u codi uwchlaw y byd drwg presenol. Mae y dynion hyn, trwy nerth meddwl a gallu moesol, yn peri i'r byd deimlo eu dylanwad, a gwrando ar eu llais. Perarogla eu henwau wedi iddynt farw, a chofir hwynt gyda pharch gan genedlaethau dyfodol. Dyma wir freninoedd y ddaear, a chymwynaswyr y ddynoliaeth. Maent yn cyfranogi o ysbryd Iesu Grist. Yn mysg y rhai hyn y gellir rhestru y llenor a'r athrawydd, yr hwn sydd yn treiddio i ddirgelion natur ac ysbryd, yn agor meusydd newyddion i'r deall, a pheri i ddynion deimlo fod gwybodaeth yn etifeddiaeth wedi ei rhoddi iddynt gan Dad yr ysbrydoedd. Mae y gweinidog da yn deilwng o'i osod ar raddfa uwch fel cymwynaswr y ddynol iaeth na'r llenor a'r bardd. Fel rheol, gwna fwy o aberth i wella dyn, a chynhyrfir ef gan ddylanwadau cryfach i'w waith dros Dduw. "Enynodd tân ynof, a mi a leferais â'm tafod."
Bu Ieuan Gwynedd yn "weinidog da i Iesu Grist." Nid peth bychan yn ei olwg oedd bod yn bregethwr a gweinidog yr efengyl. Yr oedd ei fryd ar y weinidogaeth yn dra ieuanc, a phenderfynodd ymgyflwyno iddi, a chymeryd ato holl arfogaeth Duw, ac ni feddyliai lai na threulio ei holl oes yn ngwisgoedd ei swydd. Sefyllfa bwysig yw bod yn weinidog, ac yn weinidog mewn tref neu ardal boblog. Pan fyddo yr areithfa yn traethu gwirioneddau yr efengyl yn eglur, ac heb gyfeiliornad, a chyda nerth a dylanwad, mae y weinidogaeth yn sicr o brofi yn effeithiol, nid yn unig ar yr aelodau a'r gwrandawyr, ond hefyd ar y cylchoedd y troant ynddynt. Bu Ieuan yn weinidog mewn tref, a theimlai fod y cylch y llafuriai ynddo yn un tra phwysig; ond ni chafodd aros yn hir yn y cylch hwnw. Pallodd ei iechyd, a gorfodwyd ef i roddi heibio y weinidogaeth. Ergyd trwm i'w deimlad oedd rhoddi heibio y pulpud am y wasg, a gadael maes cyntaf ei lafur, a'r lle yr urddwyd ef. Yno hefyd oedd lle beddrod ei anwyl briod a'i blentyn. Ni wyddai neb ond efe a'i Dduw y fath archoll i'w deimlad oedd rhoddi heibio ei hoff waith, gwaith yr oedd ei enaid wedi awyddu am dano, a gweddïau taerion ei fam wedi ei gyflwyno iddo. "Minau hefyd a'i rhoddais ef i'r Arglwydd; yr holl ddyddiau y byddo efe byw y rhoddaf ef i'r Arglwydd." Gwelir dwysder ei deimlad yn ei bregeth ymadawol yn Saron:—"Yn awr, gyfeillion hoff, yr ydwyf yn sefyll ger eich bron am y tro diweddaf. Nid oes genyf amser i'w dreulio, na nerth i siarad heno, canys fy nerth a ballodd ynof. Wedi ymdrechu yn galed âg afiechyd am un mis ar bymtheg, yr ydwyf yn cilio o'r ymdrech. Heb fod erioed yn gryf—bron bob amser wedi fy mwrw i lawr, ond heb fy nyfetha,' y mae cystuddiau personol a theuluaidd, a gofid meddwl, o'r diwedd wedi cael y goreu arnaf. Nis gallaf sefyll mwyach o flaen arch Duw. Mae arwain y bobl wedi dyfod yn waith rhy drwm i mi." Anhawdd iawn oedd gan Ieuan roddi heibio arwain y bobl, a sefyll o flaen arch Duw; ond ofnai wneyd cam â'r achos wrth aros yn y weinidogaeth, pan yn ymwybodol nas gallai gyflawni ei waith er boddlonrwydd iddo ei hun, ac er anrhydedd i Ben yr Eglwys. Yr oedd yr amgylchiadau