Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr aethai trwyddynt wedi ei gylymu â'r lle, fel mai anhawdd iawn oedd ymadael; ond gan fod Duw yn llefaru, y mae ef yn tewi, yn troi o'r ffordd, ac yn gadael y canlyniadau iddo Ef. Gwnaeth waith yn ystod ei arosiad yn Nhredegar nad anghofir byth. Cafodd yr eglwys a'r gynulleidfa yn Saron, a'r dref, deimlo ei fod yn ddyn, ac yn "ddyn Duw." Gwnaeth argraff ar y dref fel gweinidog a dirwestwr. Cafodd achos sobrwydd ynddo amddiffynwr cryf a phenderfynol, a meddwdod wrthwynebwr galluog a zelog. Arferai ddywedyd nad oedd yr arian a enillid trwy y fasnach feddwol yn ddim amgen na "gwerth gwaed." Ymdrechai â'i holl egni i ddysgu pobl ei ofal yn egwyddorion yr efengyl. Nid oedd dim mwy boddhaol ganddo na'u gweled yn "cynyddu ar gynydd Duw," ac yn "rhodio mewn gwirionedd." Yr oedd yn bleidiwr zelog i'r Ysgol Sul, a chododd gyfarfod darllen ac egwyddori mewn cysylltiad a'r Ysgol, yr hwn a barhaodd yn llewyrchus am flynyddoedd. Taflodd ei holl ddylanwad o blaid cyfarfod Undeb Ysgolion Sabbothol Saron, Adulam, ac Ebenezer Sirhowy, yr hwn a gynelid bob dau fis, ac efe oedd yr ysgrifenydd tra y bu yn Nhredegar. Yr oedd yn mhob ystyr yn weinidog a bugail da a gofalus am ei braidd.

Ni chafodd y byd lawer o brawf arno fel pregethwr, am na fu yn hir yn y weinidogaeth. Yr oedd yn ymadroddwr cyflym, ei gyfansoddiad a'i iaith yn dda a choethedig, a'i bregethau yn ysgrythyrol. Gwyddai y ffordd i drin Gair Duw gyda medrusrwydd mawr, a dangosai y galwadau a gafodd gan wahanol eglwysi, pan ydoedd yn y Coleg, ei fod yn dra derbyniol fel pregethwr. Buom yn cyd-deithio a chydbregethu llawer, a gwyddom yr ystyrid ef yn bregethwr mawr, ac fel un oedd yn sicr o gyrhaedd enwogrwydd. Ein cred yw y daethai yn bregethwr dylanwadol ac enwog, pe cawsai fywyd ac iechyd i barhau yn y weinidogaeth. Fe allai mai ei brif ddiffyg er bod yn ddylanwadol oedd rhy fach o'r toddedig yn ei natur ac o'r lleddf yn ei lais. Ond gwnelsai amser a phrofiad gyfnewidiad mawr ynddo fel pregethwr. Yr oedd yn lled hoff o'r platform, a phob amser yn gartrefol wrth siarad mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Dywedai fod yn hawddach ganddo siarad ar y platform nag o'r pulpud. Fel hyn yr aeth gogwyddiad ei feddwl at areithio, ac arferai areithio ar ddirwest cyn dechreu pregethu. Y diwygiad dirwestol a'i cadwodd rhag myned yn yfwr, ac am hyny teimlai ei hun yn ddyledwr mawr i'r Gymdeithas Ddirwestol, a pharhaodd yn zelog drosti trwy ei fywyd.

Profodd ei hun yn weinidog ffyddlawn i Dduw, i'r gwirionedd, ac i bobl ei ofal. Teimlai fod gwirionedd yn eglur, ac nad oedd eisieu ei brydferthu âg ymadroddion chwyddedig;—nid "mewn geiriau denu o ddoethineb ddynol, ond yn eglurhad yr Ysbryd a nerth." Triniai athrawiaethau yr efengyl fel un oedd yn eu credu. Nid rhywbeth nacaol oedd ei weinidogaeth; ond mynegai holl gynghor Duw, a gosodai allan wirioneddau pendant yr efengyl mewn dull mor amlwg, fel y deallai pawb ei fod yn credu ynddynt. Yr oedd ei weinidogaeth yn Saron yn cael ei gwneyd i fyny o'r ymarferol a'r