Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei lafur dirwestol i gylch ei weinidogaeth, ond äi oddiamgylch i rybuddio yr yfwyr o'u perygl, a'u cymhell i' lwyrymwrthod. Teithiodd ac areithiodd lawer dros achos sobrwydd. Nid yn aml y byddai cyfarfod na gwyl ddirwestol na elwid am ei wasanaeth, a phenodid ef yn aml i gynnrychioli cymdeithasau lleol mewn cyfarfodydd mawrion, a nodwyd ef yn gynnrychiolydd Cymdeithas Ddirwestol Deheudir Cymru i'r gynadledd fawr yn Llundain yn 1846. Fel hyn yr oedd Dirwest yn cael llawer o'i amser, ac yn rhwym o fod yn difa ei ychydig nerth i fyned trwy waith y weinidogaeth. Yr oedd yn agored i gael anwyd ar ei deithiau dirwestol. Cof genym iddo ddychwelyd o un o'r teithiau hyn yn sâl. Meddyliai ei gyfeillion, a rhai o bobl ei ofal, ei fod yn rhoddi gormod o'i nerth a'i amser at Ddirwest, ac y dylasai gyfyngu ei hun yn fwy at y weinidogaeth. Ofnent fod y llafur yn ormod iddo. Barnai eraill y dylasai gymeryd ychydig win er mwyn ei fynych wendid, ei fod yn aberthu ei iechyd ar allor llwyrymattaliad. Ond credai ef fod sobri y meddwon yn rhan bwysig o'i waith fel gweinidog da i Iesu Grist, ac y buasai yfed y diodydd meddwol yn niweidiol i'w iechyd. Dywedai wrthym, tua blwyddyn cyn ei farwolaeth, i'w feddyg ddywedyd wrtho, na fuasai yn byw cyhyd pe buasai yn arfer yfed. Colled fawr i achos sobrwydd oedd i'w nerth ballu ar y ffordd, ac iddo orfod gadael y gwaith oedd mor agos at ei galon; oblegyd pan fethodd bregethu, methodd areithio dros Ddirwest. Ond er nas gallai siarad, yr oedd pin yr ysgrifenydd buan yn barod bob amser i wasanaethu achos sobrwydd. Os na thraethai â'i dafod, ysgrifenai a'i law yr hyn a ddychymygai ei galon, a llefara yr ysgrifen wedi i'r tafod dewi.

III. Y GWLADGARWR. Fe allai mai y rhinwedd uchaf mewn dinesydd yw gwladgarwch. Mae gwladgarwch i'r wladwriaeth yr hyn yw duwioldeb i'r eglwys. Mae y gwladgarwr yn dyfeisio cynlluniau, ac yn cyflawni gweithredoedd i lesoli ei wlad. Nid oes golygfa brydferthach na gweled dyn yn ymroddi i wasanaethu ei Dduw a'i wlad. Mae y cyfryw yn ymdrechu i wella sefyllfa foesol yn gystal a chymdeithasol ei wlad; ac yn wir nis gall dyn wasanaethu ei wlad fel y dylai heb wasanaethu Duw; oblegyd y mae y dyn sydd heb ofni Duw yn aml heb barchu dyn, fel nas gall fod yn wir wladgarwr. Yr oedd Ieuan yn caru ei wlad, ac am ei gweled yn ymgodi mewn crefydd, gwybodaeth, a rhinwedd. Yr oedd y dinesydd a'r cristion, cariad at ei wlad ac at ei Dduw, wedi cydgyfarfod ynddo ef. Yr oedd yn gwybod hanes ei wlad, ac yn deall ei theimlad. Gwnaeth Gymru yn gystal a Chymraeg yn destun ei fyfyrdod. Gwyddom fod yn ei fryd ysgrifenu hanes Cymru, ac yr oedd am wneyd y gwaith mor ddarllenadwy a buddiol ag y gallai, i ddenu yr ieuainc i'w ddarllen, a'u dwyn i deimlo dyddordeb yn hanes eu gwlad. Credai fed anghen mawr am y fath hanes, a buasai wedi ei gyflawni pe cawsai fyw. Nid ychydig fu ei ymdrech i ledaenu moddion addysg. Mynai i'r addysg fod yn grefyddol, ac felly i'r ysgolion gael eu cynal trwy roddion gwirfoddol. Ni fynai droi y Beibl dros ddrws