Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr ysgol. Fel hyn y dywed, "Na throwch y Beibl dros ddrws yr ysgol er derbyn arian y Llywodraeth." Credai mai gwaith y rhieni a'r eglwys yw addysgu y plant. Os byddai i'r Llywodraeth ymyryd, byddai yn rhaid iddi dalu am gynal crefydd, gan fod yr addysg i fod yn grefyddol. Yr oedd yn erbyn i'r Llywodraeth fod yn paymaster, oblegyd gwyddai y rhaid i'r arian ddyfod o logell y wlad yn y ffordd o drethoedd; am hyny mynai i'r rhieni ofalu am eu harian, a thalu eu hunain am addysg eu plant. Ofnai i ymyriad y Llywodraeth wneuthur y rhieni yn fwy diofal am addysg eu plant, a thaflu y cyfrifoldeb ar eraill. Dangosai yr hyn a ddywedodd ac a ysgrifenodd fod addysg y genedl yn agoș at ei feddwl. Gwelir ei olygiadau ar addysg Cymru, a'i apeliadau taerion am i Ymneillduwyr Cymru godi at eu gwaith, yn ei Weithiau, tudal. 329.

Yr oedd Ieuan bob amser yn barod i wneuthur ei oreu gyda phob symudiad a dueddai i lesoli y byd, a hyfrydwch ei galon oedd gweled y byd yn gwella. Yr oedd yn bleidiwr gwresog i Gymdeithas Heddwch, ac yn hiraethu am y dydd y byddai "heddwch fel yr afon, a chyfiawnder fel tônau y môr" dros yr holl fyd. Mae dymuniadau ei galon yn cael eu gosod allan yn ei Awdl ar Heddwch. Cydymdeimlai a phob peth oedd dda, a llawenychai yn llwyddiant a dyrchafiad ei wlad yn mhob gwybodaeth a rhinwedd.

IV. Y BARDD A'R LLENOR. Mae ei Weithiau yn dystion byw o'i allu barddonol a llenyddol. Nis gall dim ei ddarlunio fel bardd gystal â'i Weithiau. Y profion goreu o alluoedd dyn yw cynyrchion ei feddwl neu waith ei law ef ei hun. Am hyny, ddarllenydd, os myni gael golwg ar Ieuan Gwynedd fel llenor, darllen ei Weithiau. Yr oedd yn fardd o'i febyd, wedi ei wneuthur felly gan Natur. Yr oedd ganddo "lygad i weled anian," a gallu i'w desgrifio mewn iaith farddonol. Cafodd ei eni a'i fagu mewn ardal fanteisiol i danio yr awen. Yr oedd yn byw y rhan foreuol o'i oes yn ngolwg Cader Idris a'r Aran. Yno y mae Natur ei hun yn farddonol, a phob amrywiaeth yn y golygfeydd—y mawreddog a'r prydferth yn cydgyfarfod, nes y mae naturiaeth ei hun yn cael ei gosod ar dân, a phob gallu darluniadol ac awenol yn cael ei dynu allan—"enynodd tân, a mi a leferais â'm tafod." Ysgrifenodd lawer yn Gymraeg ac yn Saesonaeg. Bu yn olygydd dau newyddiadur Seisonig—y "Principality" yn Nghaerdydd a'r "Standard of Freedom" yn Llundain. Yn ei ysgrifeniadau y gwelid Ieuan oreu. Yma yr oedd cuddiad ei gryfder, yma yr oedd gartref. Nid o orfodaeth y cymerai y pin ysgrifenu; yr oedd wrth ei fodd pan yn cyfansoddi. Ysgrifenodd ar lawer o faterion gwahanol, yr hyn a ddengys gyffredinolrwydd ei athrylith a'i sylw. Ymaflai ei feddwl yn mhob testun, ac ni ollyngai ei afael ynddo nes y gosodai ei ddelw arno. Mae ôl meddwl ar bob mater a driniai, a dengys ei holl gyfansoddiadau fedrusrwydd mawr. Mae yr iaith yn bur, y cynllun yn eglur, a'r cyfansoddiad yn ystwyth a naturiol. Yr oedd ganddo amcan yn ei holl gyfansoddiadau. Yr oedd yn byw i bwrpas, ac am hyny yr oedd yn ysgrifenu i amcan neillduol, ac ymdrechai gyrhaedd yr