amcan hwnw. Yr oedd yr amcan bob amser yn deilwng o'r dyn a'r cristion. Nis gellir darllen ei Weithiau heb deimlo eu bod yn gwella y galon yn gystal ag yn goleuo y deall—heb deimlo pleser yn gystal a derbyn lles. Mae swyn a melusder yn ei farddoniaeth; mae ei syniadau yn gywir a naturiol, yr ieithwedd yn syml, coeth, a barddonol. Dywed y Parch. J. T. Jones, yn ei "Eiriadur Bywgraffyddol" am dano, "Mae ei enw wedi ei gerfio yn ddwfn ar furiau teml yr Awen. Nid aml, dybygem, yr offrymwyd rhagorach aberth ar allor duwies Cerdd na'i bryddest—awdl ar "Yr Adgyfodiad," ac y mae ganddo lawer o ddarnau cyffelyb. Nid engraifft wael o'i athrylith ar destun o'r fath yw ei gan ar "Fythod Cymru," yr hon a enillodd yr ariandlws yn Eisteddfod Caerdydd, yn Mehefin, 1851. Mae yn y gân saith penill crwn, a phob un o honynt fel blwch llawn o syniadau newyddion, hollol annibynol y naill ar y llall. Bydd 'Yr Adolygydd' a'r 'Gymraes' yn golofnau parhaus, ar faes llenyddiaeth Gymreig, o eangder ei wybodaeth, dillynder ei iaith, grymusder ei amgyffredion, a'i amcanion clodfawr yn yr oll." Mae beirdd wedi ehedeg yn uwch ar edyn dychymyg, yn meddu mwy o'r gallu creadigol, ac yn fwy cywrain a chelfyddydol nag ef; ond ni cheir llawer yn fwy naturiol, ystwyth, ac eglur. Mae ei gyfansoddiadau yn gryno a threfnus, pob brawddeg yn ei lle, yn dolenu yn eu gilydd yn esmwyth a naturiol, a phob gair yn orlawn o synwyr. Yr ydym yn meddwl y ceir golwg gyflawnach arno yn ei Weithiau rhyddieithol nag yn ei farddoniaeth. Mae hyn yn naturiol, am fod y materion oedd ganddo yn y blaenaf yn aml yn codi o'r amgylchiadau yr oedd ynddynt, ac oddiwrth bynciau a drinid yn ei ddydd ef, ac felly y maent yn ddangoseg mwy cywir o'i farn a'i deimlad na'i farddoniaeth. Dywed " Y Beirniad," mewn adolygiad ar ei Weithiau, " Yr oedd pob peth o eiddo Ieuan yn eglur, yn dlws, a chaboledig; ond yr oedd ei yni, ei dân, ei wladgarwch, a'i angerddoldeb, yn gallu ymgorffoli yn fwy grymus yn ei Weithiau rhyddion nag yn ei farddoniaeth."
Mae yn rhaid i ni bellach derfynu y sylwadau anmherffaith hyn ar nodweddion Ieuan. Mae yn hyfryd genym droi o'i gwmpas, a chofio am dano. Treuliasom ddyddiau a nosweithiau lawer gyda'n gilydd. Buom yn gweini i'n gilydd pan yn glaf, ac yn cydweithio pan yn iach. Mae ef wedi gadael y ddaear er ys blynyddau, ond yr ydym ni wedi cael byw i weled cyfnewidiadau mawrion mewn byd ac eglwys. Mae llawer o'r pynciau y bu ef yn dadleu ac yn ysgrifenu drostynt erbyn heddyw wedi eu gosod ar ddeddflyfrau y wlad. Nid aeth y llafur yn ofer—"Eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i'w llafur hwynt."