Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IEUAN GWYNEDD:

EI FYWYD A'I LAFUR.


PENNOD I.

EI DEULU.

CYNWYSIAD: Y dyn hunan-wneuthuredig—Dinodedd teulu Evan Jones—Ei fam; ei hanes boreuol; y "Bibl Coch," a molawd ei mab ieuangaf iddo; yn newid ei henwad; ei hargyhoeddiad llym, a'i hymuniad a'r eglwys Annibynol yn y Bala; yn priodi Evan Jones—Symudiad y teulu i fyw i Ddolgellau; Evan Jones yr aelod cyntaf o'r eglwys yn yr "Hen Gapel" yma—Eu hymadawiad i fyw i Amnodd, ger Llanuwchllyn; Dr. G. Lewis, a'i weinidogaeth yno; hynodrwydd yr ardal fel magwyrydd enwogion; dylanwad pwysig duwinyddiaeth Dr. Lewis ar Catherine Jones a hanes dilynol y teulu.

"UNQUESTIONABLY the greatest thing that can be said of a man is, that he had no father that he sprang from nothing, and made himself that he was born mud, and died marble.' Dyma yr athrawiaeth a ddysgai y diweddar Barch. Thomas Binney i ieuenctyd lluosog ei gynnulleidfa yn y Weigh House Chapel yn Llundain, ac yr oedd ef ei hun yn engraifft nodedig o honi. "Yn mhob gwlad y megir glew," a gall gwlad fechan Cymru ymffrostio mewn nifer anrhydeddus o'r glewion hunan-wneuthuredig hyn. O holl olygfeydd y ddaear hon, nid oes un fwy llawn o ddyddordeb ac addysg nâ'r olygfa o ddyn ieuanc o allu ac yni a phenderfyniad, yn gweithio ei ffordd trwy gorsydd lleidiog, dreiniog tlodi, rhagfarn, a phrofedigaethau, ac yn dringo i fyny llethrau llithrig bryniau uchel gwybodaeth a rhinwedd, defnyddioldeb ac enwogrwydd. Os llwydda i gyrhaedd safle uchel o enwogrwydd yn ngolwg ei wlad, naturiol y teimlir chwilfrydedd i wybod rhyw gymaint am helyntion cychwynol ei yrfa—y rhwystrau a gyfarfyddodd ac a orchfygodd ar ei ffordd—pa fesur o'i lwyddiant oedd i'w briodoli i'w yni a'i lafur ef ei hun, a pha fesur i ffafrau Rhagluniaeth y Nef a'i gyfeillion o'i amgylch ar y ddaear; gan mai i'r graddau ag y ceid fod ei gymeriad uchel yn adeilad teg ei ymenydd a'i ddwylaw ef ei hun, i'r graddau hyny yn unig y teimlid fod gwarogaeth ei gyd-ddynion yn ddyledus