Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo. Dyma athroniaeth hanes bywyd pob dyn―olrhain neillduolion ei fywyd a'i gymeriad yn ddyn yn ol i'w hachosion yn ei hanes yn blentyn, oblegyd, ys dywed Wordsworth, "the child is father to the man." Gwirir athroniaeth y llinell hon i fesur mwy neu lai yn hanes bywyd pob dyn, yn mhob cylch o gymdeithas, o'r breninlys i'r bwthyn; a hyn sydd yn ei wneyd mor bwysig i bob dyn yn mha amgylchiadau a dylanwadau moesol y megir ef yn blentyn.

Ein gwaith yn y tudalenau canlynol fydd ceisio arddangos bachgen a anwyd gerllaw y dref hon—un o fechgyn teilyngaf Cymru, a hoffusaf o gyfeillion—bachgen o allu meddyliol ac o yni a phenderfyniad anorchfygol—yn dringo, trwy anfanteision a rhwystrau aneirif, o ddinodedd aelwyd dlodaidd ei gartref i fyny, o safle i safle, i fod yn un o'r cymeriadau mwyaf cenedlaethol, a'i enw i fod yn "enw teuluaidd" ar bob aelwyd wladgarol trwy Gymru. Bydd adnabod yn deg "yr anfarwol Ieuan Gwynedd" o Dredegar a Chaerdydd yn hollol anmhosibl heb yn mlaenaf adnabod y bachgen "Evan Jones o'r Tycroes," a gwybod yr amgylchiadau, a'r awyr gylch moesol o ddylanwadau, yr anadlai ei ysbryd ieuanc ynddynt yn moreuddydd ei fywyd.

"I am my own ancestry," ymffrostiai Napoleon Buonaparte—"Fy hynafiaeth i ydwyf fi fy hun." Felly IEUAN GWYNEDD. Pa fawredd bynag a gyrhaeddodd yntau yn ei fywyd, mawredd perffaith bersonol ydoedd, dim yn fenthyciol. Nid oedd dan unrhyw demtasiwn i fradychu y bychander eneidiol sydd fyth yn ymffrostio mewn achyddiaeth uchel neu henafol, neu glodfawr ar ryw gyfrif, gan bryder i guddio ei hunan dan fantell fenthyciol enwogrwydd perthynas byw neu farw, agos neu bell. Os edrychai ef yn ol ar hyd llinach ei hynafiaid, neu o'i amgylch dros gylch ei berthynasau byw, nis gallai ganfod na thad na thaid nac ewythr â dim ynddo a alwai y byd hwn yn fawr; a buan y gwelai ei linach yn ol yn diflanu o'i olwg yn nhywyllwch ebargofiant. Amaethwyr bychain oedd rhieni ei dad, John a Margaret Evans o'r Esgeiriau, Rhydymain, aelodau ffyddlawn o'r eglwys Annibynol yno. Yr unig hynodrwydd a amgylchai ei dad Evan Jones oedd yr un y gwisgodd efe ei hun ef wedi hyny âg ef fel "tad IEUAN GWYNEDD." O du ei fam hefyd, bythynwr tlawd oedd ei thad hithau, Dafydd Zaccheus, llafurwr yn ngwasanaeth R. Price, Ysw., o'r Rhiwlas, ac yn byw yn Llanfor, gerllaw y Bala. Yr oedd yn aelod eglwysig gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn y Bala, ac yn wr helaethach ei wybodaeth yn mhethau mawrion Duw nâ'r cyffredin yn yr oes hono. Pan gyda'r militia yma yn Nolgellau cynorthwyodd i waredu un o weision Crist o safn angau pan yr ymosodwyd arno yn y dref erledigaethus hon, fel yr adrodda Mr. Charles yn yr hen "Drysorfa," cyf. ii., tu dal. 138. Catherine, yr hon a anwyd yn 1773, oedd cyntafanedig ei rhieni, a chan yr amlygai yn bur ieuanc gyneddfau meddyliol ac awydd am "wybod yr ysgrythyr lân" pell tu hwnt i'r cyffredin o'i chyfoedion, y hi oedd "canwyll llygad" ei thad. Y hi fyddai ei gydymaith cyffredin