Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r moddion crefyddol yn y Bala, a'i hoff waith ef ar yr adegau hyny fyddai "dysgu iddi ffordd Duw yn fanylach." Yr oedd, fel miloedd eraill o blant tlodion Cymru, yn ddyledus am bron yr oll o'i haddysg i'r Ysgol Sabbothol. Holl swm ei haddysg ddyddiol oedd deuddeg niwrnod yn ysgol yr hybarch Dafydd Cadwaladr yn y Bala; a chyda theimlad toddedig y soniai tra y bu byw am weddïau taerion ei hen athraw dros y plant fore a nawn yn yr ysgol. Eglwyswraig oedd ei mam, heb allu darllen, fel yr oedd ei phum' plentyn yn ddyledus am eu haddysg i'w tad a'r Ysgol Sabbothol. Bu Dafydd Zaccheus farw tra yr oedd Catherine eto yn ieuanc, a gadawodd hithau dŷ ei thad i droi allan i weini.

Wedi gadael cartref, yr eisiau cyntaf a deimlodd Catherine yn ei lle cyntaf oedd Bibl yn eiddo iddi ei hun. Y pryd hwnw, tuag ugain mlynedd cyn sefydliad y Fibl Gymdeithas, yr oedd pris y Bibl cyflawn rhataf yn uchel—yn rhy uchel i eneth dlawd, â'i chyflog bychan cyntaf, allu talu am dano ar unwaith. Anogwyd hi i anturio i'r Bala at Mr. Charles. Anturio a wnaeth, a thraethodd wrtho ei holl gŵyn. Llwyddodd ei golwg syml, deallus, awyddus, a'r hyddysgrwydd nodedig a amlygai yn nghynwys y Llyfr Dwyfol a geisiai, yn nghyda'i gydnabyddiaeth flaenorol ei hun a'i thad, i enill y gwladgarwr clodfawr i roddi iddi Fibl cyflawn wythplyg ar goel, ar y dealltwriaeth ei bod i dalu cyfran gytunedig o'i bris bob tro y derbyniai ei chyflog. Talodd yn ffyddlawn am dano, a sicrhaodd y perl gwerthfawr yn eiddo iddi ei hun. Teimlai "fel un wedi cael ysglyfaeth lawer." Yn ei chariad pryderus ato, gwisgodd ef â brethyn coch, a brethyn coch a fu ei wisg byth mwy, a'r "Bibl Coch" y gelwid ef. Yn ei wisg goch hon y mae eto yn meddiant Mrs. Jones, gweddw Ieuan Gwynedd, yn Nghaerdydd. Mor ddyddorol ydyw molawd ei mab ieuangaf i'r hen "Fibl Coch" hwn yn "Fy Mam," fel nas gallwn wrthsefyll y demtasiwn i'w drosglwyddo yma fel gem i addurno ei Gofiant;—

"Byddai ysgrifenu hanes defnyddioldeb y "Bibl Coch" yn orchwyl anhawdd. Trodd lawer ar ei gyfeiriadau ar waelod y ddalen, y rhai oeddynt yr unig esboniad yn y tŷ. Darllenodd ef foreu a hwyr. Darllenodd ef yn Nghymru ac yn Lloegr; a chyn iddi ddysgu Saesonaeg, efe oedd ei chysegr bychan ' yn y wlad olaf. Darllen odd ef i feddyg ieuanc afradlon ar ei wely angau, nes tawelu i raddau ei gydwybod anesmwyth. Darllenodd ef ganoedd o weithiau yn y weddi deuluaidd. Darllenodd ef i'w phlant—darllenodd ef wrth eu ceryddu, ac wrth eu cysuro, ac wrth eu cynghori. Darllenodd ef drwy ei bywyd, ac hyd angau. Yn y 'Bibl Coch' y dysgodd fy nhad 'ffordd yr Arglwydd yn fanylach.' O hono ef y dysgodd eu dau blentyn y Salm gyntaf, a'r Deg Gorchymyn, ac 'Yn y dechreuad yr oedd y Gair,' &c. Efe oedd brenin y llyfrau, ac o'i flaen ef yr ymgrymai y plant 'gyda gwylder a pharchedig ofn; canys gweinyddid cosb drom am yr anmharch lleiaf i'r ' Bibl Coch.' Y mae fy nhad a'i ddau fab yn parchu y 'Bibl Coch' yn fawr eto; a diau, os byw fydd y plant ar ol yr henwr, na welant un peth a edy o'i ol mor werthfawr a'r 'Bibl Coch' Beth bynag ydym i'n teul-