uoedd, i'r byd, ac i'r eglwys, yr ydym felly i raddau helaeth trwy y 'Bibl Coch,' fy mam, a charedigrwydd tynergalon Thomas Charles o'r Bala. Nid annhebyg na bydd rhan helaeth o dragwyddoldeb y gwr da hwnw yn cael ei gymeryd i fyny mewn gwrando am ddefnyddioldeb y Biblau a ledaenodd. Y mae rhoddwr Bibl yn fynych, fel offeryn, yn rhoddwr bywyd tragwyddol."
Trwy fyned yn ddamweiniol i weini i deulu o Annibynwyr, lle yr oedd yn fwy cyfleus iddi fyned gyda'r teulu i'w haddoldŷ hwy gerllaw, yr arweiniodd Rhagluniaeth y forwyn ieuanc i fwrw ei choelbren o hyny allan gyda'r Annibynwyr, ac i'r ffaith lawer pwysicach mai Annibynwr, ac nid Methodist, oedd ei mab Evan, ac i'r holl ganlyniadau o hyny. Parodd yr adgof mai Methodist cyfrifol oedd ei daid, Dafydd Zaccheus, ac mai iddo ef a'r Methodistiaid yr oedd ei fam yn ddyledus am y cychwyniad rhagorol a gafodd yn moreu ei bywyd, i Evan Jones goleddu teimladau cynhes tuag at yr enwad hwnw trwy ei holl fywyd. Fel y gwelir yn "Fy Mam," dygwyd Catherine i ymuno âg eglwys Crist trwy yr Adfywiad grymus a gymerodd le yn ardaloedd y Bala yn 1789, pan oedd tuag 16 mlwydd oed, a hyny dan ing argyhoeddiad anarferol o lym. Yr oedd yr oruchwyliaeth feddyliol arteithiol hon, a'i dygodd i deimlo ei chyflwr colledig, anobeithiol ynddi ei hun, ac anfeidrol werth Iawn y Groes a chrefydd bersonol, yn gymhwysiad anmhrisiadwy werthfawr arni i fod wedi hyny yn fam ysbrydol yn gystal a naturiol—yn wir fam, i'w phlant. Yn 1790 ymunodd ag eglwys yr Annibynwyr yn Bala, oedd y pryd hwnw dan ofal y Parch. W. Thomas, gynt o Hanover; ac yn gweini mewn gwahanol leoedd yn Nghymru a Lloegr y bu hyd ddydd ei phriodas. Am ieuenctyd ei phriod Evan Jones nid oes dim mwy neillduol i'w ddyweyd nag iddo ei dreulio yn llafurio y ddaear gyda'i rieni gartref, ac ar ffermydd eraill yn yr ardal, ac iddo gael ei ddwyn i fyny o'i febyd yn yr Ysgol Sabbothol yn Rhydymain, ond heb fod yn aelod eglwysig.
Priododd Evan a Catherine Jones yn Nolgellau yn nechreu 1808. Yr oedd Catherine Jones ar y pryd yn gweini gyda boneddwr gerllaw Rhydymain, ac yn aelod o'r eglwys Annibynol yno, i'r hon yr oedd yr efengylaidd " Pugh o'r Brithdir " yn fugail. Gan nad oedd Evan Jones yn aelod, teimlai ei bod yn "ieuo yn anghymharus," a rhoddodd ei haelodaeth eglwysig i fyny. Ond i un fel y hi, oedd wedi ei " magu yn ngeiriau y ffydd," a " phrofi nerthoedd y byd a ddaw," yr oedd byw yn hapus nac yn hir yn alltud o dŷ ac oddiwrth bobl Dduw yn hollol anmhosibl, ac felly dychwelodd yn ol yn fuan ar ol priodi. Wedi priodi, daethant i fyw i'r dref hon, a chyn hir ymunodd Evan Jones âg eglwys yr Annibynwyr yma. Efe oedd y cyntaf i ymuno ar ol eu symudiad i'r " Hen Gapel," yr hwn a brynasai y gweinidog, Mr Pugh o'r Brithdir, iddynt yn 1809 gan y Methodistiaid Calfinaidd. Cyn hyny nid oedd gan yr Annibynwyr nac addoldŷ na gwasanaeth rheolaidd yn y dref hon; ond rynelid Ysgol Sabbothol ac oedfeuon achlysurol mewn tŷ anedd yn y rhan o'r dref a elwir Penbrynglas.