Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn 1810, symudasant i Amnodd, ffarm fechan tuag wyth milldir o Lanuwchllyn, ac yno y buont am y pedair blynedd dilynol. Blynyddoedd pwysig, fel y gwelir eto, oedd y rhai hyn i Catherine Jones a'i theulu. Gweinidog yr Annibynwyr yn Llanuwchllyn y pryd hwn oedd yr enwog Ddoctor George Lewis. Yr oedd y Doctor, trwy ei bregethau, ei ysgrifeniadau, a'i lafur gweinidogaethol yn mhob modd, wedi dyrchafu yr ardal fechan wledig hon i fod yn un o'r rhai mwyaf deallus yn athrawiaethau Gair Duw, a mwyaf cynyrchiol mewn pregethwyr a duwinyddion goleuedig yn holl Gymru. Yr oedd 1810 yn un o "flynyddoedd deheulaw y Goruchaf" yn Llanuwchllyn, a'r gweinidog yn llawn llanw ei boblogrwydd. Yr oedd ymddangosiadau y Doctor yn y pulpud yn fynych y pryd hwn yn rhai bythgofiadwy, wedi ei wisgo yn ei arfogaeth bumplyg o ddeall cryf, teimlad byw, dysgeidiaeth helaeth, ysbryd efengylaidd, a "nerth o'r Uchelder." Hyfrydwch penaf ysbryd ymofyngar Catherine Jones fyddai eistedd dan weinidogaeth addysgiadol, adfywiol y Doctor. Gwnaeth ei olygiadau duwinyddol argraff ddofn, annileadwy, arni. Ei Uchel-Galfiniaeth ef, ei etholedigaeth bersonol ddiamodol, ei lawn masnachol cyfyngedig, "dros yr etholedigion," a'i alwad effeithiol, anwrthwynebol, &c., fu ei chred a'i safon duwinyddol o hyny allan trwy ei hoes. Lliniarodd ei mab ieuangaf lawer ar ei chredo Uchel-Galfinaidd yn ei un ei hun, ac ymwrthododd ei mab hynaf âg ef yn gyfangwbl, ac ymunodd â chyfundeb y Wesleyaid—gwrthweithrediad digon naturiol o Galfiniaeth eithafol ei fam.

PENNOD II

EI HANES O'I ENEDIGAETH HYD EI YMUNIAD A'R SYMUDIAD DIRWESTOL

CYNWYSIAD:—Genedigaeth Evan Jones—ei frawd hynaf, John Evans—y teulu yn symud i'r Tycroes—y fam a'i phlant gartref—Evan yn yr ysgol ddyddiol; ei ysbryd darllen; ei lyfrgell; yn benthyca llyfrau; enwogion_hunan-wneuthuredig Cymru―syniadau gwahanol ei dad a'i fam am Evan—ei ysbryd pregethu; ei ddyled i'r " Dysgedydd; " yn yr Ysgol Sabbothol; ei argraffiadau crefyddol boreuaf—yn Nolgellau—yn y Fronwnion, a'i fethiant fel gwas yno—beirdd a Chymreigyddion Dolgellau—Dafydd Ionawr—ymddangosiad cyntaf Evan Jones ar faes barddoniaeth; ei ymgais cystadleuol cyntaf—cynyg i'w ddwyn i fyny yn offeiriad—yn cadw ysgol yn y Brithdir a Rhydymain—yn llythyrgludydd Caerynwch—priodas rwysgfawr aer Nannau—hudoliaethau y Cymdeithasau Cyfeillgar—ar y "llithrigfa. "

AR y ddehau gerllaw gorsaf Drwsynant, ar y llinell o Ddolgellau i'r Bala, y gwelir ffermdŷ bychan o'r enw Bryntynoriad. Yr unig ffaith sydd yn amgylchu y bwthyn bychan hwn âg unrhyw ddy-