felly y sychedai ysbryd Evan Jones am ffynonau bywiol gwybod aeth-llyfrau; a gofalodd y Nefoedd fod ganddo fam a wnai yr oll a allai i symbylu ac iawn gyfeirio yr ysbryd gwerthfawr hwn yn ei phlentyn.
Fel y cyffredin o fythynod gwledig o'r fath, dwfn dlodi oedd i'w ganfod yn llyfrgell y Tycroes. Yn ol adroddiad y llyfrgellydd ieuanc ei hun, cynwysai y pryd hwn "Dri Bibl, Llyfr Hymnau (Grawnsypiau Canaan, gan R. Jones, Rhoslan), Taith y Pererin, Llyfr y Tri Aderyn, gan Morgan Llwyd, Ffynonau yr Iachawdwriaeth, gan Mr. Jones, Pwllheli, dau rifyn o hen Drysorfa Mr. Charles, amryw bregethau, dechreu neu ddiwedd y rhai oedd yn gyffredin ar goll, ychydig o fân draethodau eraill, yr Ysgerbwd Arminaidd, a'r Bardd Cwsg." Wedi i'w wanc ddarllengar wneyd ysglyfaeth o gynwysiad y rhai hyn oll, äi ei fam neu ef ei hun oddiamgylch tai cymydogion i fenthyca llyfrau iddo. Trwy eu hymdrechion yn y llwybr benthyciol hwn, cafodd "Esboniad Dr. Gill, Hanes Prydain Fawr, gan Titus Lewis, y Blodeugerdd, Gorchestion Beirdd Cymru, gan Rhys Jones, o'r Blaenau gerllaw, Dyddanwch Teuluaidd, Drych y Prif Oesoedd, Helyntion y Byd a'r Amseroedd, rhifynau o'r Dysgedydd a'r Seren Gomer, &c." Darllenodd bron yr oll o'r llyfrau hyn cyn cyrhaedd naw mlwydd oed. Ni fwytai bryd o fwyd heb lyfr o'i flaen, fel y gallai ei enaid a'i gorff gydymborthi. Byth nid äi i ystafell ei wely y nos heb ei lyfr, a mynych y pelydrai gwawr y boreu ar ei lyfr cyn iddo roddi i fyny ei ddarllen. Weithiau byddai ar goll ar adeg ei bryd bwyd, ac wedi chwilio yn bryderus amdano ceid ef yn nghongl rhyw gae, neu mewn rhyw gilfach ar lan yr afon Wnion gerllaw, yn ymborthi yn awchus ar gynwys rhyw gyfrol ddyddorol a fenthyciasai. Yn yr hwyr gwelid ef ar yr aelwyd gartref yn gwledda mewn llawn fwynhad ar ddysgleidiau danteithiol o arlwyad rhyw dduwinydd neu hanesydd neu fardd Cymreig o fri. Anturiwn ddyweyd ei fod yn fachgenyn pymtheg mlwydd oed yn fwy hyddysg yn hanes y byd, crefyddol, llenyddol, a gwladol, ac yn hanes hen a diweddar Cymru, ac yn ngweithiau ein duwinyddion a'n haneswyr a'n beirdd enwocaf, na neb arall, ieuanc na hen, yn yr holl ardal. Bydd y ffaith hon yn llawer mwy syn pan gofiom am dlodi llyfrgell y Tycroes, ac mai o lyfrau benthyciedig y casglasai bron yr oll o'r wybodaeth helaeth hon. Ond mor wir ydyw, "lle y mae'r ewyllys y mae'r gallu!" Mae croniclau bywgraffyddiaeth yn frithion o engreifftiau o "pursuit of knowledge under difficulties"—o fechgyn o allu, yni, a phenderfyniad, wedi dringo o ddyfnderau tlodi, trwy rwystrau o bob rhyw, i fyny i orielau uchaf "Temlau Enwogrwydd." Cawn hwy yn mhob gwlad wareiddiedig. Os edrychwn i mewn i'n Teml Gymreig fechan ninau, canfyddwn yn ei horielau uchaf hithau aml un o'r "dynion hunan-wneuthuredig " hyn a ddringasant yno trwy hunan-ymgysegriad llwyr, diorphwys i'r gwaith a garent. John Blackwell (Alun), mab i rieni mewn sefyllfa isel oedd ef, ac ar ystol y crydd y treuliodd ran fawr o foreu ei oes. Ychydig o fanteision ysgol ddyddiol a allodd rhieni Walter Davies (Gwallter Mechain) roddi iddo; i'w yni ei hun yn gwbl yr oedd yn