Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel dyn trwyadl argyhoeddedig o degwch gorchymyn Paul i'r Thessaloniaid, "Os byddai neb ni fynai weithio, na chai fwyta chwaith." Cymhwysai y gorchymyn hwn yn onest ato ei hun ac at ei deulu, ac yn rhy fynych at ei fab ieuangaf gydag ychwanegiadau annhrugarog. Yr oedd gweled y bachgen yn "moedro gyda'i lyfrau" yn bla blin i'w ysbryd. Am ei briod, Catherine Jones, un o'r ysbrydoedd uchelfrydig hyny oedd hi a edrychai i lawr gyda dibrisdod athronyddol ar fawredd mor fychan, mor faterol, a mawredd aur ac arian. Ni phlygodd hi ei glin erioed i Mammon. Mawredd meddyliol, moesol, ysbrydol—cyfoeth o wybodaeth a phrofiad o ddyfnion bethau Duw, ac o ddefnyddioldeb dros Dduw, dyma yr unig fawredd a chyfoeth a gyfrifai hi yn deilwng o uchelgais dyn. Yr oedd ei phriod yn amddifad o'r "modd" a'r "medr," a hithau o'r "myn," sydd, yn ol ein Trioedd Cymreig, yn "dri anhebgorion llafur" llwyddianus, a threulio eu bywyd yn iseldir tlodi cymhariaethol fu y canlyniad.

Ysbryd argoelus arall a amlygodd ei hun yn foreu iawn yn Evan Jones oedd "ysbryd pregethu." Nod uchaf uchelgais ei fam oedd i "Evan bach" fod yn bregethwr, i dreulio ei alluoedd a'i fywyd i gyhoeddi y Gwaredwr a'i cadwodd hi yn Waredwr i golledigion ei wlad. Ond i'w phlentyn hi gael yr anrhydedd hwn, boddlawn iawn yr edrychai ar holl anrhydedd a chyfoeth y ddaear yn myned i'r sawl a'u carent. Ei syniad uchaf hi am urddas daearol, a nod uchaf ei llafur yn addysgu ei dau blentyn, oedd iddynt gael "gwasanaethu Duw yn efengyl ei Fab ef." Cafodd argoelion boreuol iawn yn yr ieuangaf fod yr Arglwydd yn debyg o foddhau ei dymuniadau a gwobrwyo ei llafur yn hyn. Pan yn pobi, nyddu, neu wau, neu ynghylch rhyw orchwyl arall wrth y "bwrdd mawr" "neu ar yr aelwyd", gwnai i'r plentyn, pan nad oedd eto ond tua phump neu chwech mlwydd oed, eistedd gyferbyn, i ddarllen iddi ranau o'r Bibl yn uchel, er mwyn ei addysgu i ddarllen a phwysleisio yn gywir "fel pregethwr." Brydiau eraill cymerai ei destyn, codai ei benau, a phregethai iddi—nid fel pechadures, ond fel beirniad, i'w hyfforddi yn y gwaith; a hawdd y gellir dychymygu y farn lle yr oedd y fam yn feirniad. Pan nad allai ei fam wrando arno, äi i ben careg fawr—y gareg olchi—wrth y drws, a phregethai oddiar hono i'r dderwen fawr a'r pistyll bychan gyferbyn gyda brwdfrydedd a boddhâd mawr. Mae y pulpud careg wrth ddrws y Tycroes, a'r dderwen uchelfrig a'r pistyll bychan gloew gyferbyn âg ef eto; ond y pregethwr plentynaidd "ei le nid edwyn ddim o hono ef mwy." Fel y cynyddai mewn oedran ac amgyffrediad, gwnai ei fam iddo ddarllen rhanau o'r Dysgedydd neu ryw lyfr duwinyddol a fyddai i'w gael, a beirniadai iddo y golygiadau a gynwysent. Yn ei flynyddau boreuol hyn ei fam oedd ei awdurdod duwinyddol uchaf ar bob pwnc, ac yr oedd ei dedfryd hi yn derfynol ar bob dadl.

Ni ddylem derfynu ein sylw ar yr "ysbryd darllen" a hynodai Evan Jones yn ei flynyddau boreuol gartref, heb gyfeirio yn arbenig at y DYSGEDYDD. Efe fyddai cludydd ei sypynau misol o'r