Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hen Gymro awengar Gymdeithas ein Cymreigyddion erioed â'i bresenoldeb.

Wedi i ni ddyweyd hyn, hawdd y gall y darllenydd gasglu fod ein bardd ieuanc o'r Tycroes yn ei elfen ei hun mewn awyrgylch mor awenyddol, mewn tref mor lawn o feirdd a llenorion o bob math a maint, ag oedd y dref hon y pryd hwnw. Ei Gamaliel barddol, wrth draed yr hwn yn benaf y dysgodd gyfrinion y gelfyddyd awenyddol, oedd Dewi Wnion. Ni bu gan athraw erioed ddysgybl mwy awyddus i dderbyn ei addysg, ac mae yr ychydig llawer rhy ychydig sydd genym o gynyrchion awen Dewi Wnion yn brofion eglur mor ffodus oedd y dysgybl ieuanc yn ei athraw. Profant y gall y gweydd barddol medrus wau gwisgoedd cyfaddas i feddyliau tlysaf a theimladau tyneraf natur o gywreinion y gynganedd Gymreig. Profodd addysg yr athraw yn hollol lwyddianus. Daeth y bardd ieuanc yn fuan mor hyddysg yn neddfau y pedwar mesur ar hugain a Dafydd ap Edmwnt ei hun. Nid anwybodaeth a barai iddo amlygu y fath ddibrisdod o'r deddfau hyny ag a wna yn ei draethawd arnynt, ac yn rhy fynych yn ei awdlau a'i englynion.

Ond ni chyfyngai Evan Jones ei hun yma i gymundeb â'n beirdd byw. Yn ein " Mynwent Newydd " y gorwedda yr hyn oedd farwol o'r anfarwol brif-fardd Dafydd Ionawr. Nid oedd y pryd hwnw ond llech fechan anolygus, a D. I. arni, i nodi allan " y gweryd lle mae'n gorwedd." Ni fynasai yr hen fardd ei hun fod hyd yn oed hono yno, llawer llai y gofadail gostus sydd yno yn awr, i sarhâu y colofnau anllygredig a eiliasai ei awen ef ei hun—ei WEITHIAU—Y rhai a ystyriai efe yn llawer mwy nâ digonol i gadw ei enw ef byth mewn coffadwriaeth yma yn Nghymru. Mynych y gwelem y bachgen uchelfrydig o'r Tycroes yn ymorwedd dros glawdd y Fynwent, yn syllu yn synfyfyrgar ar fedd yr hyglod fardd; yno yr anadlai ei ysbryd ieuanc i mewn ysbrydoliaeth adnewyddol i'w awen, i'w uchelgais, i'w wladgarwch, ac i'w hunanymgysegriad i wasanaeth Duw a'i wlad enedigol, uwchben beddrod yr esiampl perffeithiaf o'r rhagoriaethau hyn yn mysg holl feibion yr Awen Gymreig, hen na diweddar. Pymtheg mlynedd wedi hyny cawsom ei feddyliau am hyglod "fardd y Drindod" yn ei draethawd ar ei athrylith a'i weithiau a welir yn mysg ei Weithiau Rhyddieithol.

Yr oedd ymddangosiad cyntaf Evan Jones ar faes llenyddiaeth yn un boreuol ac anymhongar iawn gyda thri phenill—dau er cof am gymydog trancedig, ac un ar y Sabbath. Cyfansoddodd hwynt yn Awst, 1831, yn 10 mlwydd oed. Ceir hwynt yn y Dysgedydd am Chwefror, 1832. Pa beth a gymhellai yr "Hen Olygydd" i gyhoeddi y fath benillion—rhai y cyfaddefai eu hawdwr ei hun wedi hyny eu bod yn "ddigon hyllion i ddychrynu crocodiles"—nis gwyddom, os nad y gred a goleddai yn foreu iawn am eu hawdwr, y "deuai rhywbeth o'r bachgen hwnw, os cai fyw." Ië, "dydd pethau bychain" IEUAN GWYNEDD oeddynt, a bu yr hen Olygydd pwyllog yn ddigon llygadgraff i beidio eu "diystyru."

Yn 1836 meiddiodd ein bardd ieuanc fod yn fwy ymhongar. Anturiodd am y waith gyntaf yn ymgeisydd mewn Eisteddfod a