Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1838, Braichywaen, Sabboth. Pregethais ddwywaith heddyw. Y bregeth gyntaf a draddodais erioed oedd am 2 o'r gloch yn y lle uchod, oddiar Iago iv. 8, ac am 6 yn yr hwyr oddiar Heb. ix. 27. O, ar ol anog eraill i nesâu, bod fy hun yn anghymeradwy! Rhodded yr Ior ei nerth i mi ddringo fy hun o'r anial fyd hwn i'r Ganaan nefol, ac i fod er 'llesâd llaweroedd' a gogoniant i'w enw!"

Dengys ei Ddyddlyfr fod "trallodion cryfion yn dyfod ac yn ymgodi yn donau yn ei erbyn y naill ddydd ar ol y llall" yn yr ardal hon, ac nid y lleiaf o honynt oedd ymosodiadau bygythiol o doriad llestri y gwaed. Yn mhen tua chwech mis rhoddodd yr ysgol i fyny o ddiffyg cefnogaeth, ac am nad oedd un drws arall yn agor, dychwelodd adref i'r Tycroes. Wedi aros yn yr ardal hon am rai misoedd, yn llafurio mewn pregethu a chynal cyfarfodydd dirwestol, a llwybr ei fywyd yn orchuddiedig gan dywyllwch, torodd gwawr drachefn arno. Gwahoddodd y Parch. D. Price, Penybont fawr, ef yno i gadw ysgol. Ystyriai ei arweiniad yno at Mr. Price fel cyfryngiad trugarog y Nef ar ei ran yn nghanol tymhestloedd ei fywyd. Yr oedd safle parchus Mr. Price fel gweinidog a gwladwr yn rhoddi gwerth mawr ar ei nawdd i ddyn ieuanc fel efe, oedd yn gorfod ymladd brwydrau bywyd yn ngwyneb profedigaethau ac anfanteision o bob rhyw. Yr oedd maes llafur Mr. Price yno yn eang, a'i lafur yn fawr yn llawer mwy y pryd hwnw nag arferol, trwy yr Adfywiad grymus oedd yn ychwanegu lluaws mawr at ei eglwysi. Yr oedd dyfodiad yr ysgolfeistr a'r pregethwr ieuanc yno yr adeg hono felly yn rhagluniaethol, ac yn fanteisiol o bob tu. Yr oedd Mr. Price ei hun yn ddirwestwr brwdfrydig, ac yn un o'r areithwyr dirwestol mwyaf poblogaidd yn Nghymru. Profodd ei hun yn y fan yn "weithiwr difefl " yn ngwasanaeth ei Arglwydd. Heblaw cadw yr ysgol ddyddiol a phregethu, llafuriai yn ddiorphwys bob nos o'r wythnos mewn cynal cyfarfodydd gweddi, eglwysig, dirwestol, egwyddori y plant, yn gystal ag mewn efrydiau a llafur llenyddol yn ei fyfyrgell ei hun. Fel dyn ieuanc talentog, llafurus, a thra addawol, rhoddai Mr. Price iddo bob hyfforddiant yn ei efrydiau. Byth wedi hyn talai lawer mwy o sylw i gyfansoddiad a thraddodiad ei bregethau a'i areithiau dirwestol. Ysgrifenai at Mr. Price o Gaerdydd yn Mawrth , 1850, fel hyn, "Braidd na feddyliwn mai breuddwyd yw fod un mlynedd ar ddeg er pan oeddwn gyda chwi yn Mhenybont. Yn y byd hwn, ac yn y byd a ddaw, rhaid i mi briodoli llawer o'm dedwyddwch i chwi. Da i mi, a dichon mai da i eraill, mai i'ch dwylaw chwi y syrthiais yn 1839, a hyfryd i mi yn awr yw cydnabod fy rhwymedigaethau i chwi."

Yn ei Ddyddlyfr cawn y penderfyniadau canlynol, a wnaeth pan yn Mhenybont,—"Penderfyniadau ysgrifenedig Ion. laf, 1839, Yn ystyried fy rhwymedigaethau i Dduw, penderfynaf, yn laf, i weddio yn amlach ac yn daerach nag y gwnaethum yn 1838, ac ymdrechu meithrin teimladau o'm llwyr ymddibyniad ar Dduw; 2il, i ddal at fy ardystiad dirwestol, trwy gymhorth gras Duw,