Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'u hathrawon dysgedig yn cael eu darostwng mor fynych i weini bron elfenau cyntaf addysg i efrydwyr diddysg, a'u holl amcanion priodol yn cael eu colli! Apeliodd ei noddwyr caredig Dr. A. Jones a Mr. D. Price ac eraill at eglwysi a brodyr haelionus ar ei ran, a chasglasant swm digonol i'w gael i mewn i ysgol Marton.

Yn ystod dwy flynedd ei yrfa dymhestlog fel ysgolfeistr hyd ei dderbyniad i ysgol Marton, ceid Evan Jones yn mhob man yn cysegru ei holl oriau hamddenol i lafur caled, naill ai yn cyfoethogi a diwyllio ei feddwl ei hun trwy ddarllen a chyfansoddi, neu trwy gynal cyfarfodydd a phleidio symudiadau er llesâu eraill. Trwy fenthyca llyfrau gan gyfeillion a werthfawrogent ei dalent a'i awydd am wybodaeth, galluogwyd ef i ymgydnabyddu â Gweithiau lluaws o brif awdwyr Cymru a Lloegr, duwinyddol, barddonol, a hanesiol. Yr oedd ei awen a'i ysgrifbin ar lawn waith yn barhaus. Cynyrchion mynych ei awen y pryd hwn oedd galargerddi. Yn y cywair lleddf y carai ganu trwy y blynyddau hyn. Pa ryfedd? Dwy flynedd o gymylau a thywyllwch, o groeswyntoedd a thonau annhrugarog, oedd y rhai hyn bron ar eu hyd, gydag ambell i lygedyn o awyr las—ambell i belydryn o oleuni Rhagluniaeth, mor ddiflanedig ag ydoedd o ddysglaer, fel pe na buasai ganddo un amcan yn pelydru ond yn unig i ddangos yn eglurach iddo ddüwch y cymylau a'i hamgylchai. Effeithiai curiadau yr ystormydd hyn a'i lafur diorphwys ei hun yn drwm ar ei gorff egwan. Mynych y blynyddau hyn y caethiwid ef am ddyddiau lawer i'w wely, a thorodd llestri gwaed o'i fewn fwy nag unwaith. Llais eglur ymosodiadau bygythiol fel hyn wrtho oedd, "Trugarha wrthyt dy hun"—"Dos, ac na phecha mwyach." Ond gwella a chodi i bechu mor ddiarbed ag o'r blaen yn erbyn deddfau ei natur a wnai trwy ymroddiad diorphwys i lafur. Ceir gohebiaethau rhyddieithol a barddonol o'i waith yn ystod y ddwy flynedd hyn yn y Dysgedydd, y Dirwestydd, Cronicl yr Oes, &c. Ceir rhai o honynt yn y gyfrol o'i Weithiau, tu dal. 9 i'r 15.

Ffynonell llawer o'r croeswyntoedd a gurent arno yn y blynyddoedd boreuol hyn oedd rhagfarn brodyr a ffurfient eu dedfryd arno oddiwrth ei ymddangosiadau allanol. Collfarnent ei ymddangosiad annibynol, ymhongar, ei yni a'i uchelgais diorphwys, a'i ysfa ddidor i ddarllen, ysgrifenu, a barddoni, fel yn hollol anghyson â phrofiad dwfn o "nerthoedd y byd a ddaw," ac un ag yr oedd Duw "wedi gosod ynddo Air y Cymod." Pan fyddo cywion eryrod yn dechreu amlygu ymdeimlad o'u nerth, ac yn gwneyd ymgeisiau i ehedeg i fyny i'w helfen gynhenid yn uchelderau yr awyr, yn naturiol iawn yr enynant genfigen yr ystlumod daearol o'u hamgylch. Y fath nifer o feibion Athrylith a aberthir yn barhaus ar allor y dduwies Cenfigen! Yr enaid, y meddwl, yr ysbryd, dyma drindod hanfod "y dyn"—y gwir ddyn, a hanes y rhai hyn ydyw ei wir hanes. Fe allai y gweinydda ryw addysg pe symudem ychydig ar y wahanlen, fel y gweler i'r tu mewn, i gysegr sancteiddiolaf enaid y bachgen a faeddid mor greulon yn mlynyddau boreuol hyn ei oes. Dyma rai o'i gofnodau yn ei Ddyddlyfr yn achos ei grefydd bersonol