Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

odd yr oll a gyhoeddwyd gan bob ysgrifenydd o nôd o bob tu i'r ddadl. Chwiliai yn fanylach nag erioed pa beth a ddywedai yr Ysgrythyr ar y pwnc, a gwelodd ynddo bwysigrwydd nas gwelsai o'r blaen. Yr oedd hyd hyny yn Annibynwr am y rheswm syml mai Annibynwyr oedd ei rieni; o hyny allan yr oedd felly oddiar argyhoeddiad personol o ysgrythyroldeb y drefn Annibynol, a'i chyfaddasrwydd i weithio allan amcanion uchel crefydd Crist ar y byd. Ond dengys ei draethawd ar "Berthynas yr Eglwysi Annibynol â'u gilydd," fod yr egwyddorion yr ymresymai y prifathraw o'r Bala—drostynt wedi enill rhyw fesur o gydsyniad ei feddwl gonest. Dadleua yn gryf yn hwnw, fel y gwnai ei dad ysbrydol, yr "Hen Olygydd," ac y gwna lluaws o weinidogion a diaconiaid blaenaf yr enwad eto, dros bob cydymgynghoriad a chydweithrediad dichonadwy rhwng yr eglwysi, cyson a'r annibyniaeth a'r rhyddid hwnw na ddylai yr un eglwys mwy nag yr un person byth ei aberthu. Y cydymgynghoriad a'r cydweithrediad anhebgorol hyn ydyw elfenau sylfaenol Henaduriaeth. Nid ydyw y tra-awdurdod a thra arglwyddiaeth ar hawliau annibynol yr eglwysi a welwyd, ac a welir yn rhy fynych eto, yn Conferences a Chymdeithasfaoedd cynrychiol yr Henaduriaethwyr, ond gwthiad yr elfenau syml hyn i'r eithafion gormesol, Pabaidd, ag y mae elfenau mwyaf bywydol crefydd yn agored iddynt yn nwylaw y gallu offeiriadol. Os pery Annibynwyr Cymru i fyned yn fwy henaduriaethol, a'n Henaduriaethwyr i fyned yn fwyfwy Annibynol, fel y gwelir hwynt yn myned, ac os trwytha Ysbryd y Gwirionedd y naill a'r llall â mesur helaeth o "gariad Crist," sydd fyth yn llefain eto, "Fel y byddont oll yn un," bydd pob gwahaniaeth rhwng y ddau enwad hyn cyn hir yn fwy traddodiadol na gwirioneddol. "Henffych foreu!"

Coronwyd llafur y bugail ieuanc â'r fath lwyddiant a chymeradwyaeth, fel y gwnaeth eglwysi Marton a Forden gais am iddo gymeryd ei urddo yn weinidog parhaus iddynt. Derbyniodd alwadau o leoedd eraill i ddyfod i'w gwasanaethu fel bugail ac ysgolfeistr; ond yr un atebiad nacaol oedd iddynt oll. Yr oedd ei iechyd egwan yn gwanhau yn barhaus gan ei lafur, a'i bryder, a'i deithiau wythnosol meithion rhwng Marton a Minsterley, fel y gorfodid ef i roddi ei gysylltiad bugeiliol yma i fyny ar gyfrif ei iechyd. Ceir ei reswm arall dros wneyd hyn mewn brawddeg fer mewn llythyr ar hyn at ei rieni, "Coleg! Coleg!! Coleg i mi!!! "Gan faint ei awyddfryd i fod wedi ei wisgo yn holl arfogaeth ddysgeidiaethol gweinidog cymhwys y Testament Newydd," cyn ymgymeryd â'i waith, yr oedd ei holl fryd yn awr ar gael derbyniad i Goleg Aberhonddu. Ni sefydlwyd Athrofa y Gogledd yn Llanuwchllyn hyd Ionawr, 1842, ac yr oedd ei dyniad yntau yn gryf at hen Athrofa brofedig Aberhonddu. Yr oedd ei gyfaill Mr. Edward Roberts eisoes yno, a bu ei dystiolaethau uchel ef ac Ieuan o Leyn i'w alluoedd a'i gymeriad o wasanaeth pwysig i enill yr athrawon yn bleidiol i'w dderbyniad. Mewn llythyr at ei rieni rhydd y rheswm dyddorol a ganlyn dros anfon cais am dderbyniad i'r Athrofa :—"Mae yr ystyriaeth o'ch amgylchiadau chwi yn un o'r