Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Achlysurwyd y ddadl hon gan anerchiad a draddodasai Mr. Edwards "Natur Eglwys" ar ordeiniad brodyr i'r weinidogaeth yn Nghymdeithasfa y Bala yn 1838. Yr oedd rheolau y Cyfundeb Methodistaidd, er pan y cymerodd yr hawl i ordeinio ei weinidogion ei hun i'w law ei hun yn 1811, yn cau yr anrhydedd o draddodi yr anerchiad arferol ar "Natur Eglwys" ar yr achlysuron hyny oddiwrth holl weinidogion y Sir y cynnelid y Gymdeithasfa ordeiniol ynddi. Nis gwyddom i'r rheol deg, foesgar hon erioed gael ei thori ond ar yr achlysur hwn o benodiad Mr. Edwards i'w draddodi yn Nghymdeithasfa y Bala yn 1838. Mor uchel oedd cymeriad y prifathraw o'r Bala eisoes yn y Cyfundeb fel meddyliwr, duwinydd, ac ysgolaig, ac mor gryf oedd yr awydd am ei glywed yn y Sanhedrim Fethodistaidd, fel y penodwyd ef i'r gwaith hwn yn y Gymdeithasfa gyntaf ar ol ei ordeiniad ef ei hun yn 1837. Er ei fod yr ieuangaf o'r holl weinidogion a'i rhagflaenasant ar y pwnc hwn, mae yn amheus genym i benodiad yr un o honynt greu y fath ddyddordeb a dysgwyliadau a hwnw. Atebodd yr anerchiad ddysgwyliadau uchaf yr uchaf ei ddysgwyliadau. Teimlid fod y fath ragoroldeb ynddo fel y cyhoeddwyd ef yn llyfryn wrtho ei hun, ac y mae yr hyn oedd wir am dano yn 1838 yr un mor wir am dano yn 1875, mai y llyfryn bychan hwn ydyw yr amddiffyniad galluocaf ar bob cyfrif o'r ffurflywodraeth henaduriaethol yn yr iaith Gymraeg. Teimlai yr hen arwr dewr o Lanbrynmair fod ynddo allu peryglus. Ymaflodd yn ei gleddyf profedig—ei ysgrifbin, ac ymladdfa frwd fu y canlyniad. Cynhyrfai enwogrwydd y ddau ymgleddyfwr ddyddordeb dirfawr trwy holl gylchoedd crefyddol Cymru. Treiddiai eu dylanwad i gylchoedd pellaf, isaf cymdeithas—hyd gylchoedd diotwyr a meddwon y tafarndai, a segurwyr conglau yr heolydd. Gwelid holl Lilliputiaid meddyliol y cylchoedd oll yn dynwared dewrder, os nad gallu , dau arwr yr ymrysonfa. Gwir yr edrychai rhyw ddosbarth bychan o grefyddwyr o hirbell, draw i fyny ar gopa eu nefolfrydedd dychymygol eu hunain, ar y rhyfelgyrch, gan synu yn aruthr at wlad o bobl oleuedig a chrefyddol yn y fath gynhwrf yn nghylch pwnc nad oedd yn dwyn un cysylltiad â gwirioneddau mawrion bywydol crefydd, nac âg iachawdwriaeth eneidiau. Ond eithriadau anaml oedd y brodyr unllygeidiog hyn. Edrychai y dosbarthiadau mwyaf goleuedig ar y ddadl hon fel un bwysig a dyddorol nodedig. Os nad oedd cysylltiad rhwng y pwnc o Ffurflywodraeth Eglwysig â bywyd Cristionogaeth, nac â bywyd yr enaid, teimlid fod cysylltiad hanfodol rhyngddo â llwyddiant Cristionogaeth ar unrhyw raddfa eang iawn yn y byd. Y mae crefydd yn Nghymru dan ddyled arbenig i'r dadleuon crefyddol hyn a gynhyrfasant ein gwlad ar wahanol adegau yn ystod y canrif presenol. Buont o wasanaeth anmbrisiadwy tuag at gynyrchu y chwaeth a'r ymchwilgarwch ysgrythyrol hwnw sydd wedi ein dyrchafu fel cenedl i fod y fwyaf goleuedig yn nyfnion bethau Duw, y fwyaf crefyddol a moesol, o holl genedloedd y ddaear.

Fel y galleşid tybied, teimlai ein hefrydydd ieuanc ymofyngar, brwdfrydig o Marton y dyddordeb dyfnaf yn y ddadl hon. Darllen-