Yn ngwanwyn 1840 dechreuodd yr athraw nychu dan ddwylaw y darfodedigaeth, ac ymadawodd yr efrydwyr o un i un oddiyno. Erfyniai Mr. Jones a'r eglwys ar Evan Jones aros yno i ofalu am y ddiadell fechan yn ystod ei afiechyd ef, ac o gydymdeimlad â'i hoff athraw cydsyniodd a'u cais. Ar y 30ain o Dachwedd bu Mr Jones farw, a'r Sabboth dilynol cafodd ei hoff ddysgybl yr anrhydedd pruddaidd o "draddodi ei bregeth angladdol yn Marton a Forden, i'r cynulleidfaoedd lluosocaf a welwyd erioed yn y ddau le." Ar ol marwolaeth ei athraw yn Marton amlygodd E. Jones y gofal tyneraf am ei weddw a'i amddifaid. Anfonodd apeliadau taerion at luaws o weinidogion a diaconiaid eglwysi, a phersonau unigol o gyfoeth, mewn gwahanol ranau o Gymru, am gyfraniadau personol a chasgliadau cynulleidfaol at gynaliaeth y weddw, a gosod ei phlant dan addysg ac mewn galwedigaethau anrhydeddus, a derbyniodd gyfanswm calonogol yn wobr i'w lafur. Ar ddeisyfiad Mrs. Jones cyfansoddodd gofiant dyddorol o'i hoff athraw yn Saesonaeg, yn llyfryn swllt, a chyflwynodd yr oll o'r elw oddiwrth ei werthiad i'w deulu amddifaid.
Wedi colli ei athraw yn Marton, aeth Evan Jones dan addysg y Parch. T. Jones, Minsterley, tua saith milldir o Marton. Parhai ei gysylltiad bugeiliol â Marton a Forden fel o'r blaen, ac o'r cyflog bychan a dderbyniodd fel eu bugail y talai gostau ei addysg a'i gynnaliaeth. Treuliai y pedwar diwrnod cyntaf o'r wythnos yn Minsterley yn llafurio am addysg iddo ei hun, a'r gweddill dros y Sabboth yn Marton a Forden yn bugeilio ei ddiadelloedd yno gyda ffyddlondeb mawr. Er nad oedd ond ugain mlwydd oed, enillodd yn raddol safle pwysig yn yr ardal, fel y gallai ddyweyd wrth ei rieni, "Myfi ydyw yr archoffeiriad yn y lle hwn." Fel prif arwr Anghydffurfiaeth yn y lle, nid esgeulusai ddynoethi yn ddiarbed unrhyw ystrywiau yn ei herbyn, neu unrhyw lygredigaethau cyhoeddus, yn mysg yr Eglwyswyr, yr hyn yn naturiol a'i gwnai yn wrthddrych gelyniaeth ac erledigaeth parhaus offeiriaid a lleygwyr Eglwysig mwyaf dylanwadol yr ardal. Gresynai yn ddirfawr wrth ganfod yr oll o'r bron o'r wlad hono, oedd mor llwyr dan awdurdod a dylanwad yr Eglwys Sefydledig, wedi ei gorchuddio gan dywyllwch ysbrydol a phob ffurf o lygredigaeth, a llafuriai trwy bregethu, cynal cyfarfodydd dirwestol, a phob moddion eraill o fewn ei allu, i'w gwrthweithio. "Yr wyf am gysegru tymor byr fy mywyd," ebai wrth ei rieni oddiyma, "yn dymor o dreulio ac ymdreulio yn erbyn pechod yn mhob ffurf."
Yma yn Marton y daeth i gydnabyddiaeth â'r ferch ieuanc a fu wedi hyn yn wraig iddo, Miss Catherine Sankey, merch Mr. John Sankey, o Rorrington Hall, gerllaw Marton. Saesones ydoedd, ac aelod o'r Eglwys Annibynol yn Marton. Ymgyfamodasant i briodi pan y gorphenai ef ei efrydiau Athrofaol, ac y sefydlai yn ngwaith y weinidogaeth. Fel y gwelir eto, rhoddwyd y cyfamod hwn mewn grym ar ei sefydliad ef yn Nhredegar bum' mlynedd wedi hyn. Yn ystod ei arosiad yn Marton y bu y frwydr ddadleuol gofiadwy rhwng y Parch. L. Edwards, Bala, a S. Roberts, Llanbrynmair.