Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Seisonig. Gan fod ei wybodaeth o'r iaith hono yn dra diffygiol, gwnaeth feistrolaeth arni yn nôd cyntaf a phenaf ei lafur yn Marton. Nid esgeulusai unrhyw lwybr na llafur tuag at hyny. Er mwyn ei deall yn gywir, heblaw dysgu ei gramadeg, ymarferai lawer â chyfieithu iddi a chyfansoddi rhyddiaeth a barddoniaeth ynddi; ac er mwyn ei siarad yn gywir, achubai bob cyfle i dynu ymddyddan â Saeson mwyaf deallus a choethedig yr ardal, i'w clywed yn acenu geiriau ac yn ffurfio brawddegau yn Seisonigaidd. Yn mhen ychydig fisoedd cawn ef yn ddigon anturiaethus i bregethu mewn pentref cyfagos yn y Saesonaeg, a daeth yn fuan yn alluog i bregethu ynddi "gyda rhwyddineb a phleser mawr." Yr oedd, yn y pwys arbenig hwn a osodai ar feddu gwybodaeth gywir o'r iaith Seisonig, yn esiampl dra theilwng o'i efelychu gan bob Cymro ieuanc, ac yn enwedig gan holl efrydwyr ein colegau Cymreig sydd â'u bryd ar y weinidogaeth. Y fath gynhauaf toreithiog o ddefnyddioldeb ac enwogrwydd a fedodd ein Cymro ieuanc hwn, fel y gwelwn eto, oddiwrth ei gallineb yn ymroddi mor egniol i feistroli yr iaith Seisonig! Os cafodd ambell Gymro yn nyddiau ein tadau fesur helaeth o lwyddiant yn y pulpud, yn y masnachdŷ, neu mewn rhyw gylch arall, heb ond ychydig neu ddim gwybodaeth o'r Saesonaeg, mae y dyddiau hyny wedi myned heibio am byth ar Gymru, a da fyddai i bob Cymro ieuanc uchelgeisiol, fydd â'i fryd ar ragori ar ei holl gydymgeiswyr mewn unrhyw gylch, crefyddol neu dymorol, gredu hyn. Llafuriai Evan Jones hefyd mewn dysgu ieithoedd Groeg a Rhufain, ac amrywiol gangenau eraill addysg gyffredinol. Yr oedd yr athraw yn dra hyddysg yn nghyfrinion y Llaw—fer. Achubodd Evan Jones y cyfle i'w dysgu, a daeth yn fuan mor fedrus ynddi a'i athraw. Ychydig a feddyliai ar y pryd y profai o'r fath wasanaeth anmhrisiadwy iddo wedi hyny. Ei hyddysgrwydd yn y Llaw—fer a alluogodd ei ysbryd diorphwys i fyned trwy y fath gyfanswm aruthrol o ysgrifwaith, hollol annirnadwy i'r cyffredin o ddynion, yn ystod chwech mlynedd ei fywyd cyhoeddus, o'i fynediad i faes cyntaf ei lafur yn Nhredegar hyd ei farwolaeth. Yn ngwyliau Nadolig, 1839, aeth ei gyfaill Mr. Edward Roberts ac yntau ar daith bregethwrol trwy ranau o'r Gogledd. Yr oedd yr adfywiad cyffredinol ar grefydd a ddilynodd y diwygiad mawr dirwestol yn parhau eto yn ei ddylanwadau bywiol mewn llawer o'r lleoedd yr ymwelsant a hwy. Dengys ei Ddyddlyfr i'r arwyddion grasol a fwynhasant fod "llaw yr Arglwydd gyda hwynt" yn ystod y daith hon brofi yn nerth ysbrydol o'r gwerth mwyaf iddo ef. Tynai y pedwar casgliad canlynol oddiwrth yr hyn a welodd yn ystod y daith hon:—"1, Ni welais ddiwygiad mawr mewn un man lle nad oedd y bobl yn caru eu gweinidog yn fawr—2, lle nad oeddynt yn ddirwestwyr—Caernarfon[1] yn eithriad;—3, lle y defnyddient lawer o Dobacco;—4, lle nad oeddynt yn teimlo ac yn gweddïo llawer."

  1. Gweinidog eglwys Caernarfon ar y pryd oedd amddiffynydd dewr yr egwyddor o Gymedroldeb —Caledfryn.