Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gerddorol, ac ni afradodd erioed ei fryd a'i amser mewn ymgais ofer i ddyfod yn gerddor. Credai ei fod yn uchel yn ffafr ei chwaer—Awen, Barddoniaeth. Y mil o iasiau melusion a fwynhai yn ei chyfrinach swynol hi oedd ei hyfrydwch penaf; a ffrwyth y gyfrinach hon oedd rhai o'r darnau puraf o farddoniaeth yn iaith ei wlad. Credodd y gallai bregethu. Gwelsom iddo roddi ei fryd yn foreu ar yr "uchel alwedigaeth" hono; a daeth yn bregethwr rhagorol. Ond ni chredodd iddo gael y ddawn i wisgo ei bregethau âg addurniadau areithyddiaeth, ac ni wnaeth byth ymgais i fod yn bregethwr hyawdl a phoblogaidd yn "bregethwr mawr." Po fwyaf yr ymarferai â'r ysgrifbin, sicraf oll yr ymdeimlai fod ganddo y gallu i drin yr offeryn bychan oll—alluog hwnw i bwrpas uchel; rhoddodd ei fryd ar ragori yn ei ddefnyddiad; a pha Gymro erioed a wnaeth ragorach defnydd o hono? Ni wenieithiodd iddo ei hun erioed ei fod yn "ddyn mawr." Dosbartha John Foster "ddynion mawr," fel awdwyr neu bregethwyr, i dri urdd—y rhai mawr mewn gallu i ddarganfod gwirioneddau—i'w hegluro, neu i'w cymhwyso. Nid oedd gan Evan Jones ddim o allu darganfyddol yr urdd blaenaf, sydd yn dwyn allan wirioneddau cuddiedig, ac yn creu cyfnodau yn hanes meddyliol eu gwlad. Yr oedd yr ail allu, yr eglurhaol, ganddo i'r gradd ag oedd yr athrylith awenyddol ganddo. Ond rhaid rhestru unrhyw wir fawredd a honir iddo ef dan y pen diweddaf—y cymhwysol. Yn yr ymarferol y gorweddai cuddiad ei gryfder ef. Dengys ei Ddyddlyfr iddo ddyfod yn ymwybodol o hyn yn gynar yn ei yrfa gyhoeddus. O hyny allan, edrychai ar bobpeth o safle y gweithiwr ar ei fyfyrgell fel ei weithd —ar ei lyfrau ynddi, ar y pulpud, yr esgynlawr, y wasg, a phob cynulliadau y cymerai ran ynddynt, fel cyfryngau ac offerynau gwaith dros ei Dduw a'i wlad; a pha weithiwr erioed a weithiodd yn ddyfalach nac yn well? Yr oedd pob llwyddiant a rhagoriaeth a gyrhaeddodd yn ei fywyd â'u sylfaen yn yr hunan—adnabyddiaeth meddylgar a barodd iddo gyfyngu ei uchelgais a'i lafur i'r cylchoedd hyny o ddefnyddioldeb ag y 'gwyddai ynddo ei hun " fod ganddo allu i ragori ynddynt. O bob gwastraff, y mwyaf alaethus mewn dyn ydyw gwastraffu galluoedd ei enaid ei hun. O bob golygfeydd gresynus, y fwyaf gresynus ydyw yr olygfa o ddyn ieuanc o allu meddyliol, yn nghanol pob manteision i ragori ar ei gyfoedion, yn gwneyd cyrhaeddiad unrhyw ragoriaeth yn anobeithiol, yn gwbl annichonadwy, trwy gamddeall a chamddefnyddio peirianwaith ei enaid, a'i roddi ar waith na fwriadodd ei wneuthurwr ef erioed iddo. Mor fynych yr ydym yn gorfod gresynu at olygfeydd fel hyn yn ein cyfarfodydd llenyddol—dynion ieuainc yn camdreulio gwanwyn eu bywyd yn ymarfer doniau na roddodd eu Crewr erioed iddynt ; gan lwyr esgeuluso y doniau a roddodd. Hyn ni wnaeth Evan Jones. Ddarllenydd ieuanc, os gwyddost am ysbrydoliaeth uchelgais yn dy symbylu i ryw orchestwaith, fel y gwyddai y bachgen uchel frydig hwn; os mynit, fel yntau, ddringo i safle uchel yn rhestr enwogion dy wlad, dilyn ei esiampl ef; yn gyntaf oll efryda dy hun; myn wybod yn mha allu yn dy enaid y cuddiwyd dy nerth a