dy ragoriaeth di. Dilyn lais dy Grewr trwy y gallu hwnw pa lwybr y mynai i ti gerdded. Trwy hwnw, a hwnw yn unig, y rhagori, ac y cyrhaedda dy uchelgais ei nôd . Dyma ddirgelwch llwyddiant Evan Jones i ddyfod yn mhen ychydig flynyddau o lafur yn "IEUAN GWYNEDD." Oni wyddom am ddynion o'r gallu oedd meddyliol mwyaf cyffredin a gyflawnasant gyfanswm anghyffredin o waith tra gwerthfawr mewn gwahanol gylchoedd yn eu dydd trwy lwyr gysegru eu galluoedd i'w gwaith priodol eu hunain, ac eraill o alluoedd cawraidd yn byw a marw mewn dinodedd annheilwng o ddiffyg hyn? Yn Gorphenaf, 1841, ymadawodd y bugail ieuanc â'r ddiadell fechan yn Marton yn nghanol " llawer o ddagrau o bob tu," a'i lygaid bellach yn edrych yn mlaen yn bryderus am dderbyniad i Athrofa Aberhonddu.
PENNOD VI.
EI HANES YN ATHROFA ABERHONDDU.
CYNWYSIAD:—Ei dderbyniad i'r Athrofa—helaethiad yr adeilad―y Parch. C. N. Davies—ei ymroddiad i'w efrydiau, yn enwedig i'r iaith Seisonig—dyledswydd efrydydd—"hogi ei bladur"—lythyrau ar "Church Extension"—Cynhwrf y "Factories Bill"—brwydr "Masnach Rydd"—Cymdeithas Heddwch—ei lafur llenyddol"—"yr Amserau"—y Drysorfa Gynulleidfaol"—ei Lyfrgell—ei deithiau pregethwrol—yn derbyn amryw alwadau―y "weledigaeth o angylion" —ei brofiad yn ngwyneb y galwadau—ei brofiad mewn cystudd―yr alwad o Dredegar, a charedigrwydd eglwys Saron—ei ymadawiad o'r Athrofa.
YN nechreu Medi, 1841, yn 21 mlwydd oed, derbyniwyd Evan Jones yn efrydydd i Athrofa Aberhonddu. O'r deunaw efrydydd oedd yno ar y pryd yr oedd pump, fel yntau, yn Feirionwyr, a'i gyfeillion , Mri. J. H. Hughes (Ieuan o Leyn), a T. Roberts (Llanrwst yn awr) o ranau eraill o'r Gogledd. Flynyddau yn ol bu bychander yr adeílad a phrinder lle yn yr Athrofa yn achos pryder a gofid dwys i'r Pwyllgor, am i'w hanallu, oherwydd hyn, i dderbyn i mewn ond nifer terfynedig o efrydwyr, eu gorfodi i wrthod llawer ymgeisydd, a rhai o'r rhai hyny yn ddynion ieuainc o alluoedd a chymeriad tra addawol. Rhyw flwyddyn neu fwy cyn hyn cynaliasant gynghor gyda golwg ar helaethu yr adeilad, ond o ddiffyg rhagolwg am fodd i gyfarfod â'r draul, eu penderfyniad oedd rhoddi yr amcan i fyny. Clywodd yr efrydwyr am eu penderfyniad anffyddiog. Cynaliasant hwythau eu cynghor, ac ar gynygiad Mr. E. Roberts (Cwmafon), penderfynasant ymrwymo am £250 tuag at y draul, os ymrwymai y Pwyllgor am y gweddill. Buasai gwrthod sefyll y fath her yn