Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

warth oesol, a derbyniwyd hi yn y fan. Aeth yr efrydwyr allan i gasglu gyda brwdfrydedd gwroniaid, ac yn mhen tua blwyddyn yr oedd cyfanswm eu casgliadau yn £500! Oni buasai am y gwrhydri hwn, a helaethiad yr Athrofa mewn canlyniad, y tebygolrwydd yw y buasai Evan Jones wedi ei rifo yn mysg y gwrthodedigion. Buasai tystiolaethau ei gyfeillion oedd yno eisoes am dano yn foddion i enill yr athraw duwinyddol, y Parch. C. N. Davies, i fod yn dra ffafriol i'w dderbyniad. Ni wrthodaf ddyn ieuanc addawol," ebai wrth ei gyfaill, Mr. E. Roberts, "am na wyddai Latin; ac ni dderbyniaf fool am ei fod yn ei gwybod." Yr athraw clasurol oedd y Parch. Edward Davies, gan yr hwn y derbyniodd lawer o garedigrwydd. Ymdoddodd yr athraw duwinyddol a'i ddysgybl newydd yn gyfeillion mynwesol i'w gilydd. Yr oedd eu cynefindra ill dau â "mynych wendid" corfforol yn tueddu i gryfhau y cydymdeimlad serchog hwn. Bu Mr. C. N. Davies farw o'r darfodedigaeth yn Ionawr dilynol, ac effeithiodd ei farwolaeth yn ddwys ar ysbryd ac iechyd ei gyfaill ieuanc, fel y gwnaethai colli ei hoff athraw yn Marton flwyddyn yn ol. Talodd deyrnged serchog o barch i goffadwriaeth ei athraw a'i gyfaill mewn cofiant o hono, a galarnadodd ei awen ei golled o hono mewn dwy alargerdd, Gym- raeg a Saesonaeg. Dilynwyd Mr. Davies yn y gadair dduwinyddol gan y Parch. Henry Griffiths.

Yn ystod pedair blynedd ei arosiad yn yr Athrofa, ymroddai gyda dyfalwch greddfol i feistroli yr ieithoedd Saesonaeg, Lladin, Groeg, Hebraeg, a Syriaeg, yn nghyda thestynau duwinyddol, clasurol, a chyffredinol eraill efrydiaeth Athrofaol. Fel yn ysgol Marton, felly yn Athrofa Aberhonddu, rhoddai y flaenoriaeth i'r iaith Saesonaeg. Yn wahanol i'w gydefrydwyr, parai hyn iddo fynychu yr Ysgol Sabbothol a'r moddion eraill yn y capel Saesonaeg am y ddwy flynedd gyntaf o'i arosiad yn yr Athrofa. "Fy fortune i," ebai yn ei Ddyddlyfr, "ydyw fy ysgrifbin a fy nhafod; a rhaid i mi ddysgu pa fodd i'w trin i'r pwrpas goreu. Yr ydwyf yn mhell iawn ar ol yn yr iaith Saesonaeg, yr hyn sydd yn ei wneyd yn fwy angenrheidiol i mi wneyd pob ymdrech yn fy ngallu i wella." Mor rhagluniaethol gywir y profodd ei farn hon gyda golwg ar yr iaith Saesonaeg! Yn y Saesonaeg, fel y gwelir eto, y cyflawnodd brif orchestion ei fywyd llafurus wedi hyn. Fel un prawf o'i ddyfalwch a'i gynydd yn ei efrydiau, enillodd wobrwyon ar amryw achlysuron yn nghystadleuon blynyddol yr efrydwyr ar wahanol gangenau eu hefrydiaeth yn yr Athrofa.

Fel rheol, dyledswydd pob efrydydd, yn ystod ei yrfa Athrofaol, ydyw cysegru ei feddwl a'i amser mor llwyr ag y gallo i'w efrydiau parotoawl. Tymor pwysig ei arwisgiad yn arfogaeth dysgeidiaeth ydyw-tymor ei ddysgyblaeth filwrol, a pharotoad arfau ei filwriaeth, i'r rhyfel ysbrydol. Boed ei wrhydri moesol a'i deyrngarwch i'w Frenin yr hyn a fyddont, bydd ei effeithiolrwydd milwrol ar faes y frwydr yn rhwym o gyfateb i fesur mawr i fesur ei ddysgyblaeth ragbarotoawl, a chyflwr ei arfogaeth. Pan gartref yn ystod un o'i ddysbeidiau (vacations) diweddaf yn yr Athrofa, aeth i ymweled âg