Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan ddystawodd y derfysg, dechreuodd y Pab Clement[1] lefaru: 'O Empriwr yr Erchyllion, ni wnaeth un gadair eriood ffyddlonach a chyffredinach gwasanaeth i'r goron uffernol, nag a wnaeth esgobion Rhufain, tros lawer o'r byd, er's uncant ar ddeg o flynyddoedd; gobeithio na oddefwch i neb ymgystadlu â ni am eich ffafr.'

Wel,' ebr Scotyn o lwyth Cromwel, 'er maint gwasanaeth yr Alcoran er's wythgant o flynyddoedd, ac ofergoelion y Pab or cyn hyny, eto gwnaeth y Cofenant fwy er pan ddaeth allan; ac mae pawb yn dechreu ammheu a diflasu ar y lleill, ond yr ym ni eto ar gynnydd hyd y byd, ac mewn grym yn Ynys eich gelynion, sef Prydain, ac yn Llundain, y ddinas ddedwyddaf sy tan haul.' 'Hai, hai,' ebr Luciffer, 'os da clywaf i, yr ych chwi yno ar fyned tan gwmwl chwithau. Ond beth bynag a wnaethoch mewn teyrnasoedd ereill, ni fynaf fi mo'ch gwaith yn cythrybio fy nheyrnas i. Am hyny, gwastatewch yn frau,[2] tan eich perygl o fwy o boenau corfforol ac ysbrydol.' Ar y gair, gwelwn lawer o'r diawliaid, a'r holl ddamniaid, yn taro eu cynffonau rhwng eu carnau, ac yn lladrata bawb i'w dwll, rhag ofn cyfnewid waeth.

Yna wedi peri cloi'r cwbl yn eu llochesau, a chospi a newid y swyddogion diofal a'u gollyngasai hwynt i dori allan, dychwelodd Luciffer a'i gynghoriaid i'r breninllys, ac eisteddasant eilwaith, yn ol eu graddau, ar y gorseddfeinciau llosg: ac wedi peri gosteg, a chlirio'r lle, dyma glamp o ddiawl ysgwyddgam yn gosod cefnllwyth o garcharorion newyddion o flaen y bar. 'Ai dyma'r ffordd i Baradwys?' ebr un (canys ni wyddent amcan pa le yr oeddynt). 'Neu os y Purdan yw yma,' ebr un arall, mae genym ni gynnwysiad tan law'r Pab i fyned i Baradwys yn union, heb aros yn un lle fynyd: am hyny dangoswch i ni ein ffordd; onid e, myn bawd y Pab, ni a wnawn iddo eich cospi.' 'Ha, ha, ha, he,' ebr wythgant o ddiawliaid; a Luciffer ei hun a wahanodd ei ysgythredd[3] hanner-llath i ryw chwerw chwerthin. Synodd y lleill wrth hyn. 'Ond,' ebr un, 'wele, os collasom y ffordd yn

  1. Bu 14 o Babau o'r un enw hwn. Clement XI. oedd yr amser yma (1700-1721) yn llenwi'r gadair anffaeledig.
  2. 'Yn frau'=yn ebrwydd, yn fuan, toe; yn rhwydd, yn barod.
    O ewch i'w byrth â diolch brau.—Edm. Prys (Salm c. 4).
    Ni chânt yn frau mo'n gorfod.—Edm. Prys (Salm ii. 3).
  3. Dannedd hirion blacnllym, megys daint baedd, a'r cyffelyb.