tebygolrwydd ynddo). Mae'r un tro yn ei lygad e', ag amser bydd e'n 'wherthin, wi fel tawn i'n eich gwel'd chi o hyd o' mlâ'n. Mae rh'wbeth mor ffel yndo fe! Nos Sul dwetha, 'ro'dd 'y mhen i ddim haner da, a mi aroses gatre' o'r cwrdd. 'Ro'dd pawb yn y cwrdd ond fi a Gwilym, me fynodd e' aros gatre' yn gwmpni i fi. Ar ol i fi fyn'd dros y lluniau yn y Beibl a Thaith y Pererin gyda fe, ag yn dodi swper ar y ford, dyma, fe'n gweyd wrtha i, 'Mami,' mynte fe, dyna neis mae i fod yma gyda'n gilydd. Dim ond gwr a gwraig y ty sy' gatre' 'nawr, ynte?'
Pan ddaeth amser ciniaw, yr oedd y ddau blentyn wedi cyrhaedd gartef, ac yr oeddynt yn llawn o'r hyn. a welsant ac a glywsant ar lan yr afon, a mawr oedd holi ynghylch y bedyddio.
'Mami', gofynai Gwilym, 'odi chi wedi ca'l eich bedyddio?
'Nagw i,' meddai Elen.
'Odi e'n ddrwg, 'te, i gâ'l eich bedyddio,' holai Gwilym.
'O nag yw,' meddai Elen, dyw e' ddim yn ddrwg.' 'Pa'm na fysech chi'n cael eich bedyddio, 'te?' gofynai Gwilym.
'Nid oedd Elen yn barod â'i hateb. O,' meddai o'r diwedd, 'dwy i ddim yn credu yn hyny.'
Odi Dafi'r Esger yn credu yndo fe?' dywedai Gwilym.—Dafi'r Esger oedd un o'r bobl fedyddiwyd y boreu hwnw, mae'n debyg.
'O odi,' atebai Elen.
'Pa'm nag 'ych chi'n credu yndo fe?' gofynai Gwilym.
Aeth Elen yn fud, tra rhedai cysgod gwên dros wyneb agored Henri.
'Mrowch chi i ddwad yn fachgen mowr,' meddai Elen o'r diwedd, 'ag yna mi dde'wch chi i w'bod.'