Ac fel yna y terfynodd yr ymddiddan yr adeg hono, ac ni fuasai yn werth ailadrodd yr hanes, oni bai am yr hyn a ddigwyddodd yn y prydnawn a boreu dranoeth.
Ar ol ciniaw, aeth Henri, yn ol ei arfer, i'r Ysgol Sul, ac mi es inau allan ar hyd y caeau i fwynhau'r awyr iach. Ar ol rhodio yma a thraw am awr neu ddwy, deuais i'r cae bach tu ol i'r ty. O'r pen draw elywais yn ddisymwth ysgrech plentyn, a safodd fy nghalon yn fy mynwes. Gwyddwn fod pwll y chwyaid yn y cornel pellaf, a meddyliais ar unwaith mai ysgrech Gwilym neu Benni Bach a glywswn. Rhedais, fel na redais o'r blaen am flynyddau, i gyfeiriad y swn. Pan gyrhaeddais lan y dwfr, nis gwyddwn beth i wneyd p'un ai chwerthin neu ddwrdio. Ynghanol y dwr a'r llaid safai Gwilym a Benni Bach, a'u dillad yn lyb cors, ac hyd yn oed eu gwallt yn dyferu dafnau o ddwr llwydaidd, ac er ei bod yn ddiwrnod twym yn yr haf, yr oedd y dwr oer yn gwneyd i'w danedd guro.
'Beth yn enw'r anwyl 'ych chi'n 'neyd yma, blant? meddwn, dipyn yn wyllt.
'Bedyddio Benni Bach w i,' meddai Gwilym.
'Wel, mi fydd hi'n waeth na gweyd yn deg pan welith mami chi,' meddwn.
'Ond 'wedodd mami nag oedd dim drwg miwn bedyddio?' meddai Gwilym.
'Gewch chi wel'd p'un am hyny,' atebais, mor sarug ag y gallwn.
A gwir a ddywedais. Pan welodd Elen hwynt, nid oedd diwedd ar ei haraeth.
'Yr arsw'd anw'l,' meddai, beth yw'r drych hyn sy arnoch chi, blant? Wedi bod yn bedyddio Benni Bach, ie fe? Mi ro i fedyddio Benni Bach i chi 'ch dou, a g'na! A thithe, Gwilym, a ffroc newydd, a phobo biner glân prydnawn heddi gyda chi 'ch dou. A neithwr ddwetha y cesoch chi 'ch golchi yn y twba!