Tudalen:Gwrid y Machlyd.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGAIR

Yn sicr, nid oherwydd bod yr awenydd hynaws hwn yn fy nyled o ddim y telir i mi'r anrhydedd o gyflwyno'i gyfrol goffa. Yn wir, prin y gallaf obeithio imi wneuthur rhagor efallai na'i arbed rhag ambell siwrnai seithug ym myd llen. Ni ddisgwylir traethiad ychwaith ar gelfyddyd barddoniaeth, oblegid rhwng CERDD DAFOD, John Morris Jones, ac ELFENNAU BARDDONIAETH T. H. Parry-Williams, a llyfrau gwych eraill, y mae gan y Cymro bellach gyfarwyddiadau digyfeiliorn ar y pwnc. Diau mai gwell imi ydyw ceisio rhoddi i'r darllenydd yr allwedd honno sy'n agor y porth ar fyd arbennig AP ALUN MABON, fel y caffo'r dieithr ychydig gymorth i'w weld fel rhan o ddarlun mwy.

Fodd bynnag, ni ddaw ond hiraeth pur o gofio am fy nhywys i'w fyfyrgell yn haf 1926. Yn y gongl yr oedd Cadair Eisteddfod Porthmadog, ac ar y bwrdd gwelid gweithiau prydyddol Crwys, Eifion Wyn, W. J. Gruffydd a Hedd Wyn. Yr oedd y rhain ar agor, a chyfrolau eraill fel eiddo R. Williams-Parry o fewn cyrraedd agos; beirdd y ganrif hon bron i gyd. Nid oedd Islwyn yn y golwg, ac ni welid Ceiriog heb graffu'n fanwl. Os nad oedd ei awduron yn hen eu cyfnod, yr oedd tras rhai ohonynt felly, ac o ddamwain, bu'n hynod ffodus ar ei batrymau.

Yno yn ei gynefin yr oedd gŵr ieuanc, gwylaidd, rhadlon, a thwymyn prydyddu yn ei waed. Yr oedd rhyw wrando yn ei edrych, fel un yn clywed llais o ddarlun, ac yn ymwybod â lliw geiriau. Yn ei ymyl safai ei briod hawddgar, Grace Hughes—merch lygat-ddu. Edrychent ill dau megis yn cychwyn ar fordaith, ac antur obeithgar y bore yn eu trem.