Tudalen:Gwrid y Machlyd.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

englyn tyner fel pelydr yn y nos. Bid a fo, yr oedd ef yn marw beunydd, a gwyddom iddo ddrachtio hyfrydwch wrth rannu cydymdeimlad. Cadwodd enw'r teulu'n loyw ym myd athrylith, ac os yw "Perorfryn" ar gadw yn y cerddi hyn, y mae ei daid, Eos Mai, a'i ewythr, Pencerdd Ffestin, yn enwog o hyd ar gof gwlad.

Wrth gyflwyno'r Gyfrol Goffa, mi wn nad o ffafr y croesewir hi gan feirdd a llenorion Cymru, oblegid ceir ynddi ddarnau o wir farddoniaeth, a thelynegion lled anghyffredin. Uwchlaw popeth, dylid llongyfarch y cyfaill llengar J. W. Jones, am ddethol mor gytbwys. Nid yw ond un arall o'i fyrdd cymwynasau i lên ei Wlad. Rhwydd hynt i lafur dihalog hyrwyddwyr yr anturiaeth.

E. LEWIS EVANS.

Pontarddulais,

Mehefin 18, 1941.