Tudalen:Gwrid y Machlyd.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y GWRTHODEDIG

BREUDDWYDIAIS neithiwr ddyfod Crist
I'r byd dros drothwy'r nef;
Nid oedd ond mintai fechan drist
Yn ei groesawu Ef.

Gwibiai'r peiriannau bomio fry
A'u nadau yn ddi-daw,
A chyrff plant bach a mamau lu
Yn ddarnau yn y baw.

Gwelais Y siom oedd yn Ei lygaid prudd
Mewn byd heb iddo drefn ;
Ni dd'wedodd air, ond sychu'i rudd
Yn ddistaw, a throi Ei gefn.