Tudalen:Gwyddoniadur Cyf 01.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y RHAGYMADRODD.

WELE y gwaith pwysig a gwerthfawr hwn o'r diwedd oll allan o'r wasg; ac nis gallwn lai na llongyfarch y cyhoeddwr anturiaethus, a'n cenedl yn gyffredinol, ar ei orpheniad. Y mae dros bum mlynedd ar hugain, bellach, er pan y dechreuwyd ar y cyhoeddiad o hono; ac er fod rhai dyddiau tywyll iawn wedi myned drosto yn y cyfamser, etto fe'i dygwyd allan, gan mwyaf, gyda chyssondeb mawr o hyny hyd yn hyn. A phan ystyrier nodwedd uchel ac amrywiog ei gynnwysiad; trefn eiriadurol cyflead ei erthyglau; yr anhawsder, mewn gwlad mor gyfyng a Chymru, i sicrhau gwasanaeth nifer digonol o ysgrifenwyr i ymgymmeryd yn galonog a'r gwahanol destynau, a pharotoi eu cyfansoddiadau yn brydlawn ar ei gyfer; ac, yn enwedig, pan gofier fod iechyd ei olygydd galluog ac ymroddedig wedi pallu i fesur mawr pan oedd y gwaith ar ei ganol, ac iddo gael ei gymmeryd ymaith yn gwbl rai blynyddoedd cyn ei orpheniad:-pan ystyrier hyn oll, nid peth bychan, dybygem ni, oedd ei ddwyn allan gyda'r fath gyssondeb, a'i orphen pan y gwnaed. Dichon fod rhai yn teimlo yn siomedig, os nad yn rwgnachlyd, o blegid ei fod wedi bod cyhyd heb ei gwbleiddio; ond y mae yn sicr genym y bydd y rhai mwyaf meddylgar yn mhlith ei dderbynwyr, erbyn ystyried pob peth, yn hytrach yn tueddu i synu fod y fath waith, dan y fath amgylchiadau, wedi ei ddwyn i ben o fewn y fath amser; ac yr edrychir arno ganddynt, yn awr wedi ei orphen, fel trysor o'r gwerthfawrocaf iddynt hwy eu hunain, ac i'w plant, a'u plant hwythau, am oesoedd a chenedlaethau lawer.

Y mae cylch gwybodaeth y byd yn awr mor eang, ac yn cynnwys y fath liosawgrwydd ac amrywiaeth gwrthddrychau, fel y mae yn gwbl anobeithiol i un dyn, pa mor nerthol bynag ei feddwl, a pha mor helaeth bynag ei fanteision, allu cyrhaedd cydnabyddiaeth fanwl a chyflawn, o fewn yr amser byr sydd iddo ar y ddaear, âg ond ychydig iawn mewn cymmhariaeth o honi. Fe fu amser, a hyny ar ryw olwg braidd yn ddiweddar, pryd na buasai yn anmhossibl i ddyn gael rhyw syniad, ac nid hollol arwynebol chwaith, am gydol gwybodaeth y byd, a phryd yr edrychid ar ambell un, ac nid yn gwbl anmhriodol, fel ysgolhaig cyffredinol. Ond y mae y dyddiau hyny wedi myned heibio. Y mae y cynnydd dirfawr a wnaed gan y meddwl dynol yn ystod y can mlynedd diweddaf yn ei ymchwiliadau i holl gylchoedd natur, i holl gyfnodau hanesyddiaeth, i darddiad a theithi a pherthynasau gwahanol ieithoedd, ac i syniadau crefyddol ac arferion cymdeithasol gwahanol genhedloedd, ac mewn gwahanol oesoedd, wedi helaethu cylch gwybodaeth i'r fath raddau ag i wneuthur y fath orchestwaith, erbyn hyn, yn gwbl annichonadwy, a'r ymgais at bob peth o'r fath yn hollol afresymol. Rhaid i bob dyn yn awr wneyd ei feddwl i fyny i fod yn anwybodus am lawer iawn o bethau, a cheisio ymfoddloni heb feddiannu dim tebyg i wybodaeth gyffredinol.

Yr un pryd, y mae yr awydd naturiol sydd mewn dyn am wybodaeth yn anniwalladwy, a'i allu i gynnyddu ynddi, dybygid, yn gyfattebol. Nid oes odid ddim mwy anghydnaws â'i deimlad nag anwybodaeth am rywbeth pwysig y sonier wrtho am dano, neu yr ymofyner âg ef yn ei gylch, yn enwedig os bydd yn gyfryw ag y gallesid disgwyl iddo ef fod yn ei wybod. Ac er ei fod yn deall yn dda nas gall byth gyrhaedd gwybodaeth gyflawn ond am ychydig iawn, mewn cymmhariaeth, o'r pethau sydd i'w gwybod, etto y mae mor awyddus am wybod rhyw gymmaint ynghylch y gwahanol wrthddrychau a ddelont, neu a allant ddyfod dan ei sylw, fel nas gall lai na gwerthfawrogi pa beth bynag a'i cynnorthwyo i ryw fesur tuag at hyny. Un o'r cynnorthwyon goreu tuag at gyrhaedd y fath amcan ydyw Geiriadur Cyffredinol; hyny yw, llyfr yn traethu ar amrywiol ganghenau gwybodaeth o bob math, gan gyfleu y gwahanol erthyglau yn gyfwyddorol, neu yn ol trefn llythyrenau yr iaith, yr un modd ag y trefnir y geiriau mewn geiriadur cyffredin. Y mae hyny wedi cael ei wneuthur i raddau helaeth yn yr iaith Saesneg, yn gystal ag yn y Ffrangcaeg a'r Germanaeg, ac amryw eraill o ieithoedd cyfandir Ewrop.