Tudalen:Gwyddoniadur Cyf 01.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y llyfr cyntaf a gyhoeddwyd yn Lloegr i'r amcan hwn, mewn cyssylltiad â'r gwyddorion a'r celfyddydau, oedd y "Lexicon Technicum, or an Universal English Dictionary of Arts and Sciences, explaining not only the terms of Art, but the Arts themselves." Cyhoeddwyd y gwaith hwn yn 1704, mewn un gyfrol fawr unplyg. Y mae enw NEWTON "Mr. ISAAC NEWTON, Master of the Mint"—yn mhlith y tanysgrifwyr. Ei awdwr oedd y Parch. JOHN HARRIS, D.D., F.R.S. Ganwyd ef yn y fl. 1667. Dygwyd ef i fyny yn Mhrifysgol Caergrawnt. Cafodd beth dyrchafiad eglwysig. Cyhoeddodd amryw lyfrau, a rhai o honynt yn rhai helaeth iawn. Yn eu plith, y mae cyfrol o ddarlithiau yn erbyn Atheistiaeth, a draddodwyd ganddo yn 1698, mewn cyssylltiad â'r Boyle Lecture. Yn 1710, fe'i dewiswyd yn ysgrifenydd y Gymdeithas Frenhinol, pan oedd Syr ISAAC NEWTON yn llywydd iddi; ond cyn iddo wasanaethu yn llawn un flwyddyn, fe'i diswyddwyd, o blegid rhyw gamymddygiad anadnabyddus. Bu farw mewn dirfawr dlodi yn 1719. Y mae y geiriadur yn awr dan ein sylw, i'r amcan uniongyrchol y cyhoeddwyd ef yn waith tra rhagorol, ac fe ennillodd boblogrwydd mawr yn fuan. Cyhoeddodd yr awdwr gyfrol newydd o "Adgyflenwad" iddo yn 1710; ac y mae un erthygl yn hono a ysgrifenwyd gan Syr ISAAC NEWTON. Cyn y flwyddyn 1741, yr oedd pump o argraphiadau o hono wedi eu cyhoeddi—pryd y chwanegwyd cyfrol arall adgyflenwol ato. Y mae ei gynnwysiad, gan mwyaf, erbyn hyn, fel ag y gallesid disgwyl, yn anghyfattebol i safon gwybodaeth yr oes bresennol; ond y mae yn teilyngu sylw neillduol, fel y cais cyntaf, yn y deyrnas hon, i ymdrin â'r gwyddorion a'r celfyddydau mewn ffurf geiriadurol.

Y nesaf at yr eiddo Dr. HARRIS, oedd y "Cyclopædia, or Universal Dictionary of the Arts and Sciences," gan EPHRAIM CHAMBERS. Dyma y llyfr cyntaf a alwyd wrth yr enw hwn yn Lloegr; ac am flynyddoedd lawer ni chydnabyddid yr un arall yn gyfryw ond efe. Yr oedd yr awdwr yn enedigol o Kendal, yn Westmoreland. Bu farw yn y flwyddyn 1740. Fe'i rhwymwyd yn egwyddorwas gyda llyfrwerth wr, a gwneuthurwr darlunleni; ond gan ei fod wedi tynu cynllun y llyfr hwn yn ei feddwl, efe a adawodd y gorchwyl hwnw, ac a ymroddodd yn hollol i ysgrifenu. Wedi blynyddoedd o lafur caled, fe gyhoeddwyd y llyfr yn 1728, mewn dwy gyfrol fawr unplyg. Ennillodd ar unwaith y fath gymmeradwyaeth, fel ag yr etholwyd yr awdwr, yn 1729, yn aelod o'r Gymdeithas Frenhinol. Mewn llai na deng mlynedd, daeth ail argraphiad allan, gyda diwygiadau a chwanegiadau; ac wedi hyny, drydydd a phedwerydd cyn marw yr awdwr. Daeth y pummed argraphiad allan yn 1746, gyda mwy drachefn o chwanegiadau. Ac yn 1781—86, daeth argraphiad allan dan olygiad Dr. ABRAHAM REES, wedi ei helaethu i bedair o gyfrolau mawrion unplyg, a'r hen erthyglau wedi eu eywiro yn fanwl, fel ag i beri i'r gwaith gyfatteb i wybodaeth uchaf adeg y cyhoeddiad o hono. Ond o'r dechreuad, ac yn yr argraphiad mawr cyntaf o hono gan Dr. REES, y mae y gwaith yn ei gyfyngu ei hunan yn unig i'r gwyddorion a'r celfyddydau. Ac yn y cylch hwnw, fe'i cydnabyddid am y pryd, nid yn unig yn Mhrydain, ond trwy holl Ewrop, yn sefyll yn y dosbarth blaenaf.

Ar gyfieithiad o'r gwaith hwn i'r Ffrangcaeg y seiliwyd yr "Encyclopédie" mawr ac enwog a gyhoeddwyd yn Paris, dan olygiaeth DIDEROT a D'ALEMBERT llyfr a roddes ei enw ar y cyfnod y perthynai iddo, ac a ennillodd y fath hynodrwydd mewn cyssylltiad â'r syniadau gwylltion ar lywodraeth, a'r syniadau anffyddol ar grefydd, a osodid allan ynddo, fel y tybir ei fod wedi gwneuthur mwy na dim arall i barotoi meddyliau y Ffrangcod i'r chwyldroad mawr a gymmerodd le yn eu gwlad yn niwedd y ganrif ddiweddaf. Dechreuwyd cyhoeddi hwn yn 1751, a gorphenwyd ef, gyda'r "Adguflenwad" iddo, yn 1777, mewn tair ar ddeg ar hugain o gyfrolau mawrion unplyg—un ar ddeg o'r rhai a roddir i gerfluniau. Cyfyngid y gwaith hwn hefyd, fel yr eiddo HARRIS & CHAMBERS, i'r gwyddorion a'r celfyddydau, gyda'r chwanegiad o fasnach a llaw-weithiau, ae ychydig o enwau daearyddol; ac yn y cyfrolau adgyflenwol, ychydig o fywgraphiadau. Cydnabyddir yn gyffredinol fod y gwaith hwn yn arddangos gallu anghyffredin, yn enwedig yn y gwyddonau pur, ac yn y cymmhwysiad o honynt at wahanol ganghenau athroniaeth naturiol; ond y mae y gwenwyn Atheistaidd sydd yn treiddio drwyddo, a'r dôn isel, ddirmygus, a diystyrllyd, sydd yn hynodi pob cyfeiriad a wneir ynddo at Gristionogaeth, wedi ei wneuthur yn awr, a hyny yn hollol deilwng, yn ysgymmun cyffredinol.

Fe gyhoeddwyd drachefn yn Paris—yr hwn mewn rhan y gelliir ei olygu yn ail argraphiad o'r gwaith blaenorol, ond wedi ei helaethu yn ddirfawr, a'i drefnu mewn chwech ar hugain o wahanol ddosbarthiadau—yr "Encyclopédie Methodique."' Bu y gwaith hwn