Tudalen:Gwyddoniadur Cyf 01.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

wedi gorphen y tabernacl, ac i bob parotoad gael ei wneyd at ddechreu ar y gwasanaeth sanctaidd, cyssegrwyd Aaron a'i feibion gan Moses, yr hwn a'u heneiniodd a'r olew sanctaidd, ac a ddododd y gwisgoedd cyssegredig am danynt. Yr archoffeiriad a ymroddai yn ddiesgeulus i gyflawnu gorchwylion pwysig ei swydd ddyrchafedig; a thros ysbaid yn agos i ddeugain mlynedd y bu yn gweini y swydd, ni ddygwyddodd ond ychydig o achlysuron i'w ddwyn yn hanesyddol i sylw. Dywedir, er ei anrhydedd, ei fod wedi tewi pan darawyd ei ddau fab hynaf yn feirw am eu camwedd ysgeler ger bron yr Arglwydd: Lef. x. 1—11.

Gallem gasglu fod Aaron yn ddarostyngedig i eiddigeddu weithiau wrth awdurdod a dylanwad rhagorach ei frawd; canys ymddengys ddarfod iddo gefnogi Miriam yn ei hymddygiad cenfigenus tuag at Moses, pan ddygai Iethro wraig Moses ato i'r gwersyll, gan ofni y byddai anrhydedd gwraig y blaenor yn fwy na'r eiddo hi: ei chwaer, yn ei chenfigen, a geisiai iselu Moses ei hunan gyda'r bobl, a chydsyniodd Aaron yn ormodol â hi yn ei phechod. Cynimerodd yr Arglwydd blaid ei was mewn modd neillduol yn y tro, gan geryddu Aaron a Miriam yn llym o herwydd eu hymddygiad, a tharawyd Miriam â'r gwahanglwyf, trwy yr hyn yr argyhoeddwyd yr archoffeiriad o ysgelerder ei gamwedd, ac efe a ymostyngodd yn edifeiriol i daer erfyn maddeuant Moses a Duw: Num. xii.

y wialen ryfedd hon yn y babell, yn dystiolaeth o osodiad Aaron a'i deulu gan Dduw yn yr offeiriadaeth: Num, xvii. 10.

Ni chaniatawyd i Aaron fyned i dir yr addewid, o herwydd iddo ef, gystal a'i frawd, amlygu anymddiried yn yr Arglwydd, pan darawyd y graig yn Meribah (Num. xx. 8-13); ac yn fuan ar ol hyny, pan symmudodd y gwersyll i Moserah, ger llaw mynydd Hor, gorchymynodd yr Arglwydd i Aaron esgyn i fynydd Hor yn ngolwg yr holl bobl, i farw yno, ac i Moses ei frawd, ac Eleazar ei fab, ei ddilyn ef yno, fel y diosgid y wisg archoffeiriadol oddi am dano ef, a'i dodi am Eleazar ei fab ef. Felly Aaron a fu farw yn mynydd Hor, yn gant a thair blwydd ar ugain oed; ac efe a gladdwyd gan ei fab a'i frawd mewn ogof yn y mynydd: a meibion Israel a alarasant am dano ef ddeng niwrnod ar ugain. Ac ar y dydd cyntaf o fis Ab, cynnelir cofwyl ei farwolaeth gan yr Iuddewon hyd heddyw: Num. xx. 24—29.

Wrth adolygu hanes blaenorol Aaron, gallwn weled ei fod wedi ei gynnysgaethu â doniau helaeth i lenwi y swydd bwysig ei galwyd iddi gan Dduw. Gallwn feddwl ei fod, tra yn yr Aipht, mewn amgylchiadau uwch law y cyffredin o'i hydgenedl; canys prin y gallasai un oedd yn rhwym yn ngwasanaeth y priddfeini hebgor amser a thraul y daith o'r Aipht i Horeb, gyfarfod ei frawd-taith nas gallasai ei chyflawnu, yn ol y Dr. Shaw, dan ddau fis o amser. Gan ei fod yn frawd maeth i un a ddygid i fyny yn fab i ferch y brenin, nid yw yn annhebyg nad oedd efe a'i chwaer Miriam wedi cael manteision addysg goruwch y cyffredin o'u cydgenedl; canys dywedir am Aaron ei fod yn ymadroddwr galluog. Efallai fod Aaron yn fath o lywydd ar yr Israeliaid tra yr oeddynt yn adeiladu, neu yn darpar defnyddiau i adeiladu y pyramidiau yn yr Aipht; canys er ei fod ef dan awdurdod swyddogion Pharaoh, efe a allasai fod yn ben ar ei bobl ei hun, ac felly y cymhwysaf o bawb i ddwyn eu cwynion a chyflwyno eu ceisiadau o flaen y brenin : ac efallai fod hyn yn rheswm am fod Pharaoh a'i weision yn ymddwyn tuag Moses ac Aaron fel gwŷr o gryn gyfrifoldeb yn mysg eu pobl, a dylanwad arnynt, ac fel goruchwylwyr cyfaddas i ddwyn eu hachos ger bron y llys breninol.

Yr oedd efe hefyd yn wr wedi ei ddonio âg

Yn mhen tuag ugain mlynedd ar ol hyn, tua'r flwyddyn c. c. 1471, pan oedd y gwersyll yn anialwch Paran, ffurfiwyd gwrthryfel cryf yn erbyn Moses ac Aaron, o dan flaenoriaeth Corah, Dathan, ac Abiram, y rhai oeddynt benaethiaid dylanwadol yn mysg y llwythau. Corah, gan ei fod o lwyth Lefi, a honai fod yr offeiriadaeth yn perthyn iddo ef, gystal ag i Aaron a'i feibion ; a Dathan ac Abiram, gan eu bod o lwyth Reuben, cyntafanedig Iacob, a allasent ymhoni eu bod yn meddu gystal hawl i'r llywodraeth wladol a Moses. Ond yr Arglwydd a amlygodd ei ddigofaint yn erbyn y cydfradwyr, trwy beri i'r ddaiar agoryd ei safn, a'u llyncu hwy, a'r rhai a lynent wrthynt; ac amlygodd ei eiddigedd dros ei swyddogion gosodedig ei hunan ar ei bethau cyssegredig, trwy anfon tân, yr hwn a ddifaodd ddau gant a deg a deugain o wŷr-cyn-ysbrydoliaeth ddwyfol. Yr oedd cyfymweliad nulleidfa Corah-y rhai yn anghyfreithlawn a gymmerasant thuserau i arogldarthu ger bron yr Arglwydd. Dranoeth, pan aeth y gynnulleidfa i gwyno yn erbyn Moses ac Aaron, gan eu cyhuddo o ladd eu blaenoriaid, cymmerodd y Goruchaf blaid ei rai eneinniog drachefn, trwy beri i bla mor ofnadwy ymdori yn mysg y grwgnachwyr, fel y bu farw pedair mil ar ddeg a saith gant o honynt mewn ychydig fynydau: a phan welwyd yr arwydd yma o ddigofaint yr Arglwydd, gorchymynodd Moses i Aaron gymmeryd tân oddi ar yr allor yn ei thuser, a dodi arogldarth arno, gan brysuro at y gynnulleidfa, i wneyd cymmod drosti, yr hyn a wnaeth efe-"Ac efe a safodd rhwng y meirw a'r byw, a'r pla a attaliwyd;" Num. xvi. Ac er cadarnhad neu amlygiad helaethach i'r bobl mai i Aaron a'i hiliogaeth yr oedd yr Arglwydd yn dewis cyflwyno yr offeiriadaeth, parwyd i benaethiaid y llwythau roddi bob un ei wialen, â'u henwau yn ysgrifenedig arnynt, yn mhabell y cyfarfod, gan eu gadael yno dros nos; ac erbyn edrych y gwiail y bore dranoeth, blodeuasai gwialen Aaron dros lwyth Lefi, a dygasai almonau; ac o hyny allan, cadwyd

Moses â'i frawd yn mynydd Horeb yn un o'r arwyddion mwyaf calonogol a roddes Duw iddo o'i alwad i'w swydd bwysig gan un digon galluog i'w ddysgu a'i gynnal yn y gwaith. Rhagddywedasai Duw y cyfarfyddai â'i frawd Aaron, yr hwn nis gwelsai er ys llawer o flyneddoedd; a diau fod cyflawniad hyny mor ebrwydd wedi bod yn galondid mawr i Moses i ymgymmeryd â'r genadwriaeth. Ar yr un pryd, rhaid na buasai Aaron yn ymgymmeryd â thaith mor faith, ac yn anturio i'r fath berygl a thraul, heb ei fod yn feddiannol ar sicrwydd digonol o'r awdurdod ddwyfol a'i cymhellai i hyny: ac heb law hyny, nis gallasai ddysgwyl cyfarfod ei frawd yn y fath le anhygyrch a mynydd Sinai, oni buasai ei fod dan arweiniad dwyfol:-o ganlyniad, fel yr oedd Aaron yn arwydd i Moses, yn ei gyfarfyddiad ag ef, yr oedd cael Moses yn y fath le yn arwydd i Aaron hefyd.

Aaron oedd y cyntaf o archoffeiriaid yr Eglwys Iuddewig; ac yr oedd efe yn gysgod nodedig o Iesu Grist, "archoffeiriad a pherffeithydd ein ffydd ni," mewn llawer o bethau. Yr oedd wedi ei ddidoli oddi wrth ddynion i'r swydd sanctaidd;