Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LIII. Cwyn hen Faledwr ar auaf caled.

Byw ar driswllt, bron drysu—am wythnos,
A methu trafaelu,
Drudaniaeth yn dirdynu
I'm herbyn, er dychryn du.
—OWEN GRUFFYDD.[1]


LIV. Englyn a adroddwyd yn fyrfyfyr o ran hwyl wrth Ioan Emlyn yng ngorsaf yr AfonWen, ganol haf 1869, ar ol bod mewn cyfarfod dilewyrch yn Abersoch.

Rhyw bur sychion yw'r Abersochiaid,—"lloi
Lleyn" sydd yn ddienaid;
Wedi'r hwyl eu gado raid
Yno fel anifeiliaid.
I'm herbyn, er dychryn du.
—AP VYCHAN.



LV. Ochenaid y bardd claf.[2]

Digonwyd fi ar deganau—y byd,
Aed ei barch ac yntau
I ryw ddyn a gâr y ddau,—
Mynwent a nef i minau.
—D. PRICE (Dewi Dinorwig).[3]



LVI. Yn Eisteddfod Utica, 1874.—Y_Llywydd yn annerch Tanymarian (pan oedd ar ei daith drwy'r Amerig).

Nid pwffio, stwffio, wnaeth Stephan—am glod
Gyda'i glul yn unman;
Ond cafodd drwy'r byd cyfan
Fawr fri am ragori'r gân.
—DEWI DINORWIG.


LVII. Yntau yn Ateb.

O Dewi pa bryd y deuaf—atat,
Ac eto yth welaf;
Boed a fo, Cymro, caf
Dy ddelw y dydd olaf.
EDWARD STEPHAN (Tanymarian).[4]


LVIII. Anerchiad arall, yn yr un Eisteddfod.

'E gilia ofergoelion—o flaen dysg,
Fel hyn daw prydyddion
I enw da, ac o un dôn,
I'r oes yn werthfawr weision.

Difuddia diod feddwol——o'i dilyn
Dalent awenyddol;
Ond pob wyneb heb ei hol
Fo adeg eisteddfodol.
—Eos GLAN TWRCH.[5]



LXIX. Yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, Awst 1876, yr oedd Taliesin o Eifion, enillydd y gadair am yr awdl oreu i "Helen Llwyddawg, merch Coel Godebog," yn ei fedd. Cafwyd yno Gadair Ddu." Wedi i Madam Edith Wynne ganu "Dafydd y Gareg Wen" gyda theimladau drylliog,—cafwyd yr englynion a ganlyn,

Dai ymgais diamgen—"Eusebius"
Hybarch ar awdl-llen;
A da i'n bardd i'w godi'n ben
I drwyadl gadair awen.

Adwaedd iaith bedyddio yw,—rhoi mawredd
Ar y meirw heddyw;
Swydd odiaeth Gorsedd ydyw
Graddio'r bedd ag urddau'r byw.

Taliesin o fin ei fedd—ragorodd
Ar gewri'r gynghanedd;
A chael drwy gynrhychioledd
Barchus hawl i wobr ei sedd.
—GWALCHMAI.



LX. Sion Cent.—1480.[6]+

Disgwylid i ysgolion,—â llwyr lwydd,
Wella'r wlad o'i swynion:
Eto mae bryd twym ei bron
Ar ei gwael ofergoelion.

I wneyd taw yn eu teios,—a bygwth
Bwgan ar eu plantos,
Oer enwai y werinos
Ficer nef yn fwci'r nos.

Ond er gwarth i randir Gwent—y Saeson,
Deil grasusau talent;
Tra maen ar faen i'r fynwent,
Bydd sain côr ger bedd Sion Cent.
ROBYN DDU ERYRI (yn Hwlffordd yn 1877).


  1. Neu Owain Meirion, Glanrhyd, Llanbrynmair. Bu farw Mehefin 22ain, 1868, oed 65 mlwydd. Huna yn Llanbrynmair, a cheir englyn o waith Mynyddog ar ei feddfaen.
  2. Dyma hoffus englyn y Parch. Thomas Hughes (Machynlleth), yn ei ddyddiau olaf, ond nid efe a'i cyfansoddodd fel y tystiwyd yn y newyddiaduron adeg ei farwolaeth.
  3. Bu yn weinidog yn Ninbych yn hir. Yna symudodd i'r Amerig. Mewn penhillion tlysion a wnaeth pan yn wael yn 1867 dywed,―
    "'Rwyf yn foddlawn iawn i farw,
    Ond yn gyntaf roddi tro
    Unwaith eto drwy hen Walia,―
    Anwyl enedigol fro;
    Carwn sengyd ar y llanerch
    Lle dechreuais gerdded cam,
    Carwn weled Llanddeiniolen
    Lle mae bedd fy nhad a mam !"
    Cafodd wella. Yn 1870 yr oedd yn Williamsburg, Iowa; yno y lluniodd y penhillion "Ddaw henaint ddim ei hunan," gwel CYMRU, Mawrth, 1902. Ym mhle y ganwyd ef yn Llanddeiniolen? Pryd y bu farw?
  4. Bu farw Mai 10fed, 1885, oed 59 mlwydd. Pregethwr, cerddor, bardd, a llenor.
  5. Ganwyd yn Ty'n y Fedw, Llanuwchllyn.
  6. Megis y tybiai'r werin, yn oes Sion Cent, fod pob llenor yn cyfeillachu â'r ysbrydion drwg, felly y mae pobl ym mhlwyf Cent, Henffordd, ac yn y plwyfi cylchynol, yn tybio fod ysbryd y bardd—offeiriad yn ymrithio i'w mysg yn yr oes hon. Mynych y clywir mamau yn rhybuddio eu plant nad elont ymhell oddiwrth ddrysau eu tai y nos, rhag i Sion Cent eu cipio.